Tystiolaeth llywydd yn nhribiwlys Llyfrgell Genedlaethol
- Published
Mae llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Syr Deian Hopkin, wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn nhribiwnlys dau aelod o staff, sy'n honni iddyn nhw gael eu diswyddo i bob pwrpas (constructive dismissal), a bod y llyfrgell wedi torri telerau eu cytundebau drwy israddio eu swyddi.
Fe gafodd swyddi Arwel Jones ac Elwyn Williams eu hisraddio gan banel disgyblu am gamgymeriadau yn ymwneud â rhoi cytundeb i gwmni preifat.
Mae'r ddau yn dweud eu bod nhw wedi cael eu trin yn annheg yn ystod y broses ddisgyblu.
Roedd Syr Deian Hopkin yn rhan o banel apêl fu'n ystyried yr achos ym mis Chwefror 2014.
Fe gadarnhaodd bod 3 pherson wedi gofyn i'r rheolwyr ail ystyried lefel israddiad y ddau.
Fe gyfaddefodd ei fod wedi disgrifio'r gosb fel un "anffodus", ond roedd y panel yn teimlo bod israddio yn gosb addas.
Mater i'r rheolwyr - yn ôl Syr Hopkin - oedd penderfynu ar lefel yr israddiad.
Er hyn, fe ddywedoddd "fod y panel apêl yn credu bod dwy radd yn ormod".
Fe glywodd y tribiwnlys am achos disgyblu tebyg yn 2005. Y dyfarniad bryd hynny oedd cynnig rhagor o hyfforddiant i'r staff.
Ond fe ddywedodd Syr Hopkin fod achos Mr Jones a Mr Williams "llawer yn fwy difrifol".
Mae disgwyl i'r tribiwnlys ddod i ben b'nawn Iau, ac fe fydd y dyfarniad yn cael ei gyhoeddi yn ysgrifenedig yn y man.
Straeon perthnasol
- Published
- 19 Awst 2014