Trafod twristiaeth awyr agored sydd werth £481 miliwn
- Cyhoeddwyd

Bydd arbenigwyr twristiaeth o Gymru ac Iwerddon yn cwrdd yn Llanberis ddydd Mawrth i drafod sut i hybu twristiaeth awyr agored, sydd - yn ôl Llywodraeth Cymru - yn cyfrannu £481 miliwn i economi'r wlad.
Pwrpas y gynhadledd yw annog y diwydiant i rannu gwybodaeth ac arfer da.
Dywedodd Sian Jones, rheolwr y gwasanaeth gyda Chyngor Gwynedd: "Mae'r gynhadledd yn cloi ar weithgareddau'r tair blynedd diwethaf yn ogystal â chodi proffil y sector sy'n bwysig iawn i dwf yr economi.
"Byddwn yn sôn am sut gafodd yr arian ei wario a sut mae adeiladu ar ddatblygiadau diweddar."
Amrywiaeth
Mae gweithgareddau awyr agored yng Nghymru'n cynnwys dringo a mynydda, ynghyd â gweithgareddau dŵr fel canŵio, caiacio, syrffio a deifio. Mae hefyd yn cynnwys beicio, ogofa a pharagleidio.
Mae'r amrywiaeth o weithgareddau yn gweddu i dirlun Cymru, sy'n golygu bod sawl menter awyr agored newydd wedi agor ar draws y wlad dros y blynyddoedd diwethaf.
Un o'r busnesau i fanteisio yw Camu i'r Copa - Always Aim High .
Yn 2014, fe wnaeth cystadlaethau triathlon y cwmni o ogledd orllewin Cymru ddenu cyfanswm o dros 15,000 o gystadleuwyr a dros 40,000 o wylwyr, gan greu incwm o £8 miliwn i'r economi yn lleol.
Dywedodd un o sylfaenwyr y cwmni, Tim Lloyd, sy'n gyn ddisgybl yn Ysgol Brynrefail, Llanrug: "'Da ni wedi gweld ffyniant mawr yn y sector twristiaeth awyr agored yn y degawd diwethaf. Yn y tair blynedd diwethaf, mae ein trosiant wedi cynyddu dros 600%".
'Cefnogaeth yn brin'
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n fawr yn y sector twristiaeth awyr agored. Ond, mae Stephen Edwards, trefnydd digwyddiadau fel Ras yr Wyddfa, yn pryderu.
Meddai: "Mae'n catch 22. Mae twristiaeth yn dod ag arian i mewn i Eryri - ond dim ond am gyfnodau byr. Pres ydy popeth heddiw ac mae cefnogaeth yn brin."
Roedd y dyn busnes o'r farn fod "cyfle i bawb gael darn o'r gacen" a phwysleisiodd yr angen i gydweithio.
Ychwanegodd: "Mae 'na gae chwarae da yma yn Eryri a diwydiant grêt. Ond dwi yn poeni y daw adeg lle bydd y bybl yn byrstio. Mae cymaint o ddigwyddiadau i geisio denu twristiaid ond mae pres i ni'r trefnwyr yn parhau i fod yn brin."
Dywedodd Clare Sharples, rheolwr trefnwyr digwyddiadau'r Prosiect Twristiaeth Awyr Agored: "Nod y prosiect yw mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny a allai fod yn dal twf yn ôl yn y sector twristiaeth awyr agored yng Nghymru, ac wynebu'r heriau hyn trwy gynnig cymorth ar draws ffiniau."
10%
Mae'r sector awyr agored yn gwneud cyfraniad o 10% i economi twristiaeth Cymru. Gobaith Sian Jones yw y bydd buddsoddiad mewn gweithgareddau awyr agored yng ngogledd Cymru yn arwain at gryfhau'r economi lleol ymhellach.
Meddai: "Rhoddwyd cefnogaeth i ddatblygiadau cymunedol yn ogystal â chenedlaethol. Mae cyfleoedd wedi'u creu ar gefn y buddsoddiadau. Mae Blaenau Ffestiniog wedi gweld y stryd fawr yn ffynnu, mae nifer y siopau gwag wedi lleihau ac wrth ddenu twristiaeth i'r ardal, ni wedi creu gwerth yn lleol."
Yn ôl Ms Jones, nod y gynhadledd ddydd Mawrth, sy'n cael ei noddi gan brosiect Ewropeaidd gwerth 1.9 miliwn ewro yw "datblygu, hyrwyddo a chreu cyfleoedd" i Gymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2014
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2012