Gwarchae yng Nghaerffili: diffodd trydan a nwy 60 o dai

  • Cyhoeddwyd

Mae cyflenwad trydan a nwy tua 60 o gartrefi yng Nghaerffili wedi cael ei ddiffodd wrth i heddlu drafod gyda dyn sydd yn bygwth niweidio ei hun.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi cael eu galw i gyfeiriad yn Buxton Court, Parc Lansbury am 3.45 brynhawn ddydd Iau.

Mae'r Heddlu yn dweud oherwydd bod risg uchel o dân, mae'r cyflenwad nwy a thrydan wedi cael ei dorri i'r tŷ yn ogystal â 60 o dai cyfagos.

Mae'r heddlu yn parhau i ymweld â'r tai yr effeithir yn gyson ac yn dal i drafod gyda'r dyn dan sylw.