Pump o Blant ac Wyth Cwningen!
- Cyhoeddwyd

Mae nifer o raglenni yn ymwneud a sawl agwedd o fywyd teuluol yn cael eu darlledu ar BBC Cymru ym mis Hydref. Mae Cymru Fyw wedi bod yn sgwrsio gyda theulu sy'n byw yng nghefn gwlad Gwynedd.
Prysur!
Mae Lona a Richard Evans yn byw gyda'u pump o blant ym mhentref Chwilog ger Pwllheli, mae'r ddau yn gweithio'n llawn amser ac yn gorfod rhannu'r cyfrifoldebau o fagu'r plant, mynd a nhw i apwyntiadau gwahanol, cadw'r tŷ, heb sôn am edrych ar ôl wyth o gwningod a bwydo un gath wyllt.
Yn un o chwech o blant, mae Lona yn gweithio i Dîm Integredig Plant Anabl, Cyngor Gwynedd, ac mae Richard sy'n un o ddau o blant yn gweithio fel gyrrwr lorri i gwmni hufenfa leol.
Mae Lois, sy'n 12 oed, yn mynd i'r ysgol uwchradd tra bod Elin (10 oed), Gwen (6 oed), Endaf (5 oed) ac Owain (3 oed) i gyd yn ddisgyblion yn yr ysgol gynradd leol.
Paratoi ydi'r gyfrinach!
"Mae'r gwaith o baratoi pawb ar gyfer yr ysgol yn dechrau'r noson cynt" eglurodd Richard. "Mae tri o'r plant yn cael pecynnau bwyd i fynd i'r ysgol, felly mi fydda ni'n paratoi rheini ar ôl i ni gael swper."
Lona sydd â'r gwaith o gael pawb yn barod yn y bore, gan fod Richard yn cychwyn am ei waith am 05:00.
"Mae diwrnod ysgol arferol yn ddiwrnod prysur iawn, mae Lois yn dal y bws ysgol am wyth, a bydd Owain, Gwen ac Endaf yn mynd i'r clwb brecwast bryd hynny. Yna bydd Elin yn mynd i'r ysgol a byddai'n mynd i'r gwaith."
Shifftiau
Yn ddiweddar, mae Lona wedi gorfod torri i lawr ar yr oriau y mae'n eu gweithio. Oherwydd natur ei gwaith, mae'n ofynnol iddi weithio shifftiau, ond ddywedodd fod ei rheolwyr yn rhesymol iawn pan mae angen iddi newid ei threfniadau'n ddirybudd oherwydd y plant.
"Mae'r ddau ohonan ni yn gweithio shifftiau gwahanol, mae Richard yn gweithio drwy'r dydd a dwi'n gweithio yn y bore ac ar ddiwedd y pnawn." meddai Lona.
"Ar un adeg, roeddwn yn gweithio bob nos, ond buan iawn nes i sylweddoli nad o'n i yn gallu ei dal hi ym mhob man.
Gwarchod
Eglurodd Lona a Richard eu bod yn ddibynnol iawn ar deulu a ffrindiau i warchod y plant ar brydiau. "Fel arfer mae na rywun yn gwarchod y plant ar ôl yr ysgol. 'Da ni'n lwcus iawn o'n mamau i warchod, ac mae ffrindiau yn dda iawn efo ni."
Dywedodd Richard nad ydi'r ffaith fod y pump yn gorffen ysgol ar amseroedd gwahanol yn helpu'r sefyllfa, gan fod angen i rywun fod ar gael i'w casglu ar wahanol adegau.
Ffraeo... weithiau!
Dywedodd y plant eu bod yn ffraeo gyda'i gilydd yn aml, ond eu bod yn ffrindiau mawr yn y bôn. Ar ôl gorffen eu gwaith cartref, mae Lois, Elin, Gwen ac Endaf wrth eu boddau yn gwylio rhagleni teledu fel Rownd a Rownd, tra bod Owain wrth ei fodd yn chwarae gemau ar y cyfrifiadur.
Ymhen rhai wythnosau, mae'r teulu yn edrych ymlaen at gael mynd ar eu gwyliau tramor cyntaf.
"Da ni'n agos iawn fel teulu, a dani'n trio gwneud cyn gymaint a gallwn ni efo'n gilydd, am y tro cyntaf erioed, 'da ni'n mynd dros y môr ar ein gwyliau, mi fydda ni'n mynd i ynys Cyprus, ac mae 'na hen edrych ymlaen."
Nofio
Yn ôl Lois ac Elin, y peth oedden nhw'n edrych ymlaen ato fwyaf oedd cael mynd i nofio, a dywedodd Richard eu bod wedi bod yn cael gwersi nofio yn barod ar gyfer y gwyliau.
Doedd Lona a Richard fyth wedi dychmygu y byddai ganddyn nhw bump o blant pan ddechreuon nhw ganlyn, ond dydyn nhw ddim am newid hynny am y byd.