Darganfod dyn marw ar yr A48
- Published
Mae dyn 30 oed wedi ei ganfod wedi marw ar lôn ddwyreiniol yr A48 ger Gardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru yn Sir Gâr.
Galwyd heddlu yno toc wedi 21:00 nos Iau i adroddiadau bod dyn yn cerdded ar hyd y lôn.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod y dyn o ardal Llanelli a bod ei deulu wedi cael gwybod.
Bu'r lôn ar gau dros nos ond mae hi bellach ar agor.
Mae heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth bellach ac yn awyddus i siarad â gyrwyr fu'n teithio ar hyd yr A48 neithiwr.