Gwarchae yng Nghaerffili: arestio dyn

  • Cyhoeddwyd

Mae heddlu Gwent wedi arestio dyn lleol 38 mlwydd oed yn dilyn digwyddiad yn Buxton Court, Parc Lansbury am 3.45 brynhawn ddydd Iau.

Cafodd arbenigwyr eu galw i'r digwyddiad yn dilyn bygythiadau dyn i niweidio'i hun.

Daeth y digwyddiad i ben gyda'r dyn yn gadael tŷ, ar ei ran ei hun.

Cafodd ei arestio am 23:30 ar amheuaeth o losgi'n fwriadol ac achosi difrod bwriadol, mae'n cael ei gadw yn yn y ddalfa.

Mae'r heddlu wedi adrodd na chafodd neb eu hanafu a doedd dim tân.

Cafodd cyflenwad nwy a thrydan y tŷ eu dadgysylltu yn ogystal ag oddeutu 60 o dai cyfagos yn ystod y trafodaethau.

Dywedodd Western Power Distribution iddynt adfer cysylltiadau pŵer trydanol i 73 o gwsmeriaid toc wedi hanner nos.

Dywedodd gwasanaeth tân De Cymru bod tri chriw yno hyd at hanner nos.