Ian Watkins: Ymchwiliad i wythfed swyddog
- Published
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ymddygiad wythfed plismon - ar ôl derbyn cwynion am achos y pedoffeil Ian Watkins.
Cafodd cyn ganwr Lostprophets ei garcharu'r llynedd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Plismon o Sir De Efrog yw'r diweddara' i wynebu ymchwiliad, ac mae'r Comisiwn eisoes wedi cyflwyno rhybudd o gamymddwyn yn erbyn dau swyddog o Heddlu'r De.
Dywedodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu: "Rydym ni wedi cyflwyno rhybudd camymddygiad i gwnstabl fel rhan o'r ymchwiliad i achos Ian Watkins yn 2012. Mae'r tri swyddog sydd eisoes wedi derbyn rhybudd wedi cael eu holi gan ymchwilwyr yr CCAH. Bydd y pedwerydd swyddog yn cael ei gyfweld o fewn y dyfodol agos."
Mae ymchwiliad y Comisiwn Cwynion Annibynnol yn parhau.
Straeon perthnasol
- Published
- 21 Mai 2014
- Published
- 23 Gorffennaf 2014
- Published
- 18 Rhagfyr 2013