Marwolaeth Dinas Powys: Dyn yn y llys

Fairoaks Image copyright Google
Image caption Fe gafodd heddlu eu galw i fflatiau preswyl Fairoaks ddydd Mercher

Mae Alan Rogers, 73 oed, wedi ymddangos yn llys ynadon Caerdydd fore ddydd Gwener i wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Mae'r heddlu'n cyhuddo Mr Rogers, sy'n dod o Ddinas Powys o lofruddio Fred Hatch, 76 oed.

Roedd y ddau ddyn yn gymdogion yn fflatiau preswyl Fairoaks i'r henoed.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau o drafferthion yn Fairoaks am 09:25 dydd Mercher, 8 o Hydref.

Roedd Mr Hatch wedi dioddef anafiadau difrifol a chafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ble bu farw'n ddiweddarach.

Dywedodd Heddlu De Cymru: "Mae swyddogion yn cefnogi teulu'r dyn fu farw ar adeg anodd iawn iddyn nhw."

Fe fu gwrandawiad byr yng llys ynadon Caerdydd ac mae Mr Rogers yn cael ei gadw yn y ddalfa tan wythnos nesaf.

Straeon perthnasol