Marwolaeth pensiynwraig: bachgen yn y llys
- Published
Mae bachgen 15 mlwydd oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth pensiynwraig.
Cafodd y llanc ei arestio yn dilyn lladrad yng nghartref Jean Thyer, 90, am oddeutu 10:30 ar ddydd Llun 29 Medi.
Cafwyd hyd i'r bensiynwraig wedi cwympo yn ei chartref yng Nghilâ, Abertawe.
Cafodd ei chludo i ysbyty Treforys, Abertawe ond bu farw pum diwrnod yn ddiweddarach.
Ni allai post mortem ar gorff Mrs Thyer gadarnhau achos ei marwolaeth.
Cafodd y llanc ei ryddhau ar fechniaeth, a bydd yn ymddangos eto yn Llys y Goron Abertawe ym mis Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Hydref 2014