Georgia Davies un o 64 i gael arian i wella perfformiad
- Published
Mae'r Gymraes Georgia Davies ymysg 64 o nofwyr fydd yn cael nawdd gan UK Sport y flwyddyn nesa'.
Mae'r nofwraig wedi ei chynnwys yn sgwad perfformiad Prydain 2015.
Doedd hi ddim ar y rhestr y tro diwetha, ond bellach mae hi wedi ei chynnwys ar ôl ennill aur yn y 50 metr ac arian yn y 100 metr dull cefn yng Nghemau`r Gymanwlad, a medalau arian ac efydd Ewropeaidd hefyd.
Bydd y 64 sydd ar y rhestr yn cael arian i helpu gyda chostau hyfforddi a chyfleon i gystadlu, hefyd i dalu am wasanaethau moddion a gwyddoniaeth chwaraeon, yn ogystal â chefnogaeth staff British Swimming.
'Datblygu Llwyddiant'
Yn ol Chris Spice, y cyfarwyddwr perfformiad, mae'r arian yn rhoi "cefnogaeth werthfawr i athletwyr ar gyfer paratoi a datblygu llwyddiant yn 2016 a thu hwnt."
Fe ychwanegodd eu bod wedi cwblhau dadansoddiad manwl iawn o`r athletwyr a'u perfformiad cyn cwrdd â nhw wyneb yn wyneb i drafod eu nod yn Rio neu Tokyo, dinasoedd Gemau Olympaidd 2016 a 2020.
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Gorffennaf 2014
- Published
- 28 Gorffennaf 2014