Streic 24 awr ar y trenau
- Cyhoeddwyd

Mae tocynwyr ar wasanaethau Trenau Arriva Cymru yn cynnal streic 24 awr yng ngogledd Cymru.
Mae undeb yr RMT yn ymgyrchu yn erbyn penderfyniad y cwmni i ddiswyddo dau docynnwr sydd wedi bod yn absennol am gyfnodau hir oherwydd salwch.
Mae'r streic yn dod i ben am 1200 ddydd Sadwrn.
Bydd yr anghydfod yn cael effaith ar wasanaethau ar hyd arfordir y gogledd gan gynnwys trenau o Gaergybi i Gaerdydd.
Mae Trenau Arriva Cymru yn bwriadu defnyddio bysiau er mwyn cynnal gwasanaeth i deithwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru:
"Rydym yn siomedig fod yr RMT wedi galw am weithredu diwydiannol ac rydym yn difaru nad yw'r sefyllfa wedi cael ei datrys.
"Rydym yn gobeithio adfer ein gwasanaeth arferol yn fuan ar ol i'r streic ddod i ben am 1200 ddydd Sadwrn."
'Camdriniaeth amlwg'
Mae'r tocynwyr sydd ar streic yn gweithio yng nghanolfannau Caergybi, Cyffordd Llandudno a Chaer.
Dywedodd yr RMT bod yr anghydfod yn ymwneud â "chamdriniaeth amlwg o bolisi absenoldeb salwch y cwmni."
Cafodd dau weithiwr eu diswyddo ar ôl cyfnodau hir o absenoldeb.
Yn ôl Arriva roedd y ddau wedi bod yn absennol am gyfanswm o 890 diwrnod.
Ond mae Mick Cash, Ysgrifennydd Cyffredinol yr RMT, yn dadlau na fu'r cwmni yn deg - ac roedd hyn wedi "arwain at fethiant llwyr yn y berthynas rhwng yr undeb a'r cwmni".
Disgwylir i'r streic gael effaith ar y gwasanaethau Trenau Arriva Cymru yma:
- Arfordir y gogledd
- Caergybi i Gaerdydd
- Dyffryn Conwy
- Caer i Fanceinion
- Caer i Birmingham
- Crewe i'r Amwythig
- Wrecsam i Bidston