Cerflun newydd yn dathlu ffynnon enwog
- Cyhoeddwyd
Mae cerflun newydd yn cael ei ddadorchuddio yng nghanol Treffynnon i nodi'r cysylltiad rhwng y dref a'i ffynnon hanesyddol.
Mae'r cerflun yn dathlu hanes crefyddol y dref ac yn rhoi teyrnged i ffynnon Gwenffrewi.
Pob blwyddyn mae miloedd o bobl yn ymweld â'r ffynnon ac mae Treffynnon yn aml yn cael ei alw'n Lourdes Cymru.
Mae hanes y ffynnon wedi ei seilio ar chwedl am fywyd Santes Gwenffrewi.
Yn siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru, dywedodd y Parchedig Eirlys Gruffudd, sydd wedi cyhoeddi llyfr am ffynhonnau Cymru:
"Mi wrthododd hi (Santes Gwenffrewi) serch Caradog ac am ei bod hi wedi ei wrthod o mi dorrodd ei phen hi i ffwrdd.
"Lle syrthiodd ei phen hi ar y llawr mi gododd dŵr a dyna ddechrau tarddiad y ffynnon.
"Daeth Sant Beuno, a oedd yn ewyrth iddi yno, codi ei phen hi a'i rhoi o'n ôl ar ei hysgwyddau hi ac fe fu hi byw am 15 mlynedd wedyn.
"Fe weddïodd i Dduw i roi iddi'r gallu i wella'r sawl oedd yn gofyn am wellhad yn nyfroedd y ffynnon."
Mae grŵp o drigolion Treffynnon, gan gynnwys aelodau o Grŵp Trawsnewid Treffynnon a'r Cylch wedi bod wrthi am nifer o flynyddoedd yn casglu arian i godi cerflun a hefyd creu llwybr treftadaeth.
Mae'r grŵp yn dweud mai un rheswm dros osod y cerflun ar y Stryd Fawr yw i ddenu ymwelwyr i ganol y dre.
Dywedodd Roberta Owen, aelod o'r grŵp: "Pob blwyddyn mae tua 50,000 o ymwelwyr a phererinion yn dod i'r ffynnon a bron neb yn dod i fyny i'r dref, felly rydym yn gobeithio denu rhai ohonynt i weld y cerflun yma sy'n dangos hanes y ffynnon."
Bydd gorymdaith yn dechau am 11.30am ddydd Sadwrn o ffynnon Gwenffrewi i fyny'r Stryd Fawr lle y bydd seremoni i ddathlu llwybr treftadaeth newydd ac i ddadorchuddio'r cerflun.
Straeon perthnasol
- 9 Medi 2011
- 20 Awst 2011