Wrecsam: Y gorau eto i ddod

  • Cyhoeddwyd
Y Cae Ras yn WrecsamFfynhonnell y llun, BBC news grab

Tri o'r gloch ar brynhawn dydd Sadwrn a thîm pêl-droed Wrecsam yn rhedeg i'r cae yn barod am gêm arall... ond nid unrhyw gêm mohoni ar ddydd Sadwrn, 11 Hydref.

Mae'r clwb - un o'r clybiau proffesiynol hynaf yn y DU - yn dathlu eu pen-blwydd yn 150, ac fe fydd y Cae Ras dan ei sang ar gyfer ymweliad Grimsby.

Er y bydd sawl un yn cofio uchafbwyntiau gwahanol - o gôl Mickey Thomas gyfrannodd at fuddugoliaeth hanesyddol dros Arsenal i anturiaethau niferus Ewropeaidd Wrecsam dros y blynyddoedd - mae sawl un hefyd yn ymwybodol pa mor agos y daeth y clwb at ddiflannu'n gyfan gwbl.

Ffynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r clwb wedi cyhoeddi fersiwn arbennig o'u bathodyn ar gyfer y dathliadau

Yn 2011 roedd y clwb oriau o fod yn fethdalwyr ar fwy nag un achlysur yn dilyn blynyddoedd cythryblus o berchnogaeth amryw ddynion busnes.

Ond yna ym mis Tachwedd dair blynedd yn ôl daeth cytundeb i werthu'r clwb i'r cefnogwyr - Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam i fod yn fanwl - a dyma ddechrau pennod arall yn hanes Wrecsam.

Llai na blwyddyn yn ôl cyhoeddodd y clwb eu bod yn ddi-ddyled am y tro cyntaf ers blynyddoedd, ac er gwaetha' siomedigaethau ar y cae yn ddiweddar dyw hynny'n ddim yn tarfu o gwbl ar optimistiaeth y rhai sy'n rhedeg y clwb.

Un o'r cefnogwyr sydd bellach hefyd yn gyfarwyddwr i'r clwb yw Spencer Harris, a bu'n siarad gyda Cymru Fyw.

"Rwy'n credu bydd hanes y clwb dros y tair blynedd diwethaf yn mynd i droi allan i fod yn rhai o'r pwysicaf yn y 150 mlynedd i gyd," meddai.

"Rwy'n credu bod yr hyn a wnaeth y cefnogwyr bryd hynny yn dangos y ffordd ymlaen i glybiau eraill ar bob lefel.

"Pan - nid os cofiwch - y byddwn ni'n dychwelyd i'r gynghrair bêl-droed, rwy'n credu'n gryf y bydd y model o berchnogaeth sydd gennym yn cael ei fabwysiadu gan lawer o glybiau eraill.

"Ni oedd yr 'early adopters', ond fel mae pethau yn ariannol y dyddiau hyn ry'n ni'n dangos ei fod yn gweithio."

Ffynhonnell y llun, Wrexham FC
Disgrifiad o’r llun,
Mae rhaglen gêm ddydd Sadwrn wedi'i gynllunio'n arbennig i nodi'r achlysur

Gwirfoddolwr yw Spencer, fel y cyfarwyddwyr eraill sy'n gyfrifol am redeg y clwb o ddydd i ddydd erbyn hyn, ac mae'n cyfadde' fod y gwaith yn anodd.

Dywedodd: "Mae'n cymryd amser... llawer o amser... ac yn mynd â fi i ffwrdd o'r teulu ac ati.

"Ond mae'n waith sy'n bleser mawr i mi ac yn werth chweil gan fy mod i'n teimlo mod i'n gwneud rhywbeth ar ran cefnogwyr y clwb yn Wrecsam ac ar draws gogledd Cymru.

"Rwy'n credu bydd y 150 mlynedd i ddod yn fwy cyffrous na'r 150 diwethaf. Dwi wir yn credu bod y clwb yn symud i'r cyfeiriad iawn sy'n mynd i ddod â llwyddiant."

Mae'r dathliadau 150 mlynedd wedi gafael yn y dychymyg yn y dref - bydd Maer Wrecsam y Cynghorydd Alan Edwards yn dadorchuddio plac arbennig cyn y gêm ddydd Sadwrn, a dywedodd:

"Rydw i wedi bod yn gefnogwr Wrecsam ar hyd fy mywyd ac rwy'n hynod falch o gael dadorchuddio'r gofeb yma. Wrth gwrs rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r tîm yn y gêm yn erbyn Grimsby ond hefyd i'r dyfodol."

Mae'r tocynnau a rhaglen y gêm wedi eu cynllunio'n arbennig i nodi'r achlysur, ac mewn cyfweliad yn adran Cylchgrawn Cymru Fyw mae Waynne Phillips wedi bod yn siarad am ei atgofion fel cyn chwaraewr y clwb a phwysigrwydd y tîm i'r gymuned.

Ymddangosodd Spencer Harris ar raglen Ar y Marc ar BBC Radio Cymru fore Sadwrn.