Cam-drin rhywiol: pum mlynedd o garchar i fenyw o Sir Fôn
- Cyhoeddwyd

Mae menyw wedi ei charcharu am bum mlynedd am gam-drin yn rhywiol ferch dair oed ei chariad.
Clywodd y llys ei bod hi wedi ei dal ar ôl i'w phartner ddechrau ei hamau a recordio'r ymosodiadau ar ei ffôn.
Cafwyd hi'n euog o ymosodiad rhywiol.
Dywedodd y Barnwr David Hale wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug nad oedd y drosedd er mwyn boddhad rhywiol ond er mwyn brifo'r ferch fach.
Clywodd y rheithgor nad oedd y ferch am siarad â'r fenyw ac nad oedd ei phartner yn deall pam.
Llefen
Fe benderfynodd ddefnyddio ei ffôn i recordio'r hyn oedd yn digwydd - a'r hyn glywodd oedd y ferch yn llefen adeg ymosodiad.
Gan nad oedd yn credu hyn, y noson ganlynol defnyddiodd ei ffôn i wneud fideo ddangosodd fod ei phartner yn ymosod yn rhywiol.
Dywedodd Meirion Lewis-Jones ar ran yr amddiffyn fod ymddygiad y fenyw'n rhyfedd ac nad oedd esboniad boddhaol.
Bydd rhaid iddi gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei hoes.