Pafiliwn Corwen: Dod ag ymgyrch gyfreithiol i ben
- Published
Mae Grŵp Achub Pafiliwn Corwen wedi penderfynu peidio parhau gyda'u hapêl i atal cynlluniau cyngor Sir Ddinbych i ddymchwel yr adeilad.
Roedd y grŵp wedi ymladd brwydr gyfreithiol i wrthwynebu'r cynlluniau.
Mae Esmor Davies un o aelodau'r Grŵp Achub yn credu na ellir cyfiawnhau'r gost o symud ymlaen gyda'r apêl a allai gostio hyd at £30,000.
Ond dywed y Grŵp y byddant yn dal i arddangos eu cynllun i ailddatblygu'r adeilad presennol; sy'n cynnwys cadw'r strwythur haearn. Maen nhw'n dweud byddai'r cynllun yn costio £800,000
Mae'r Cyngor yn ffafrio datblygiad newydd sbon yn lle'r Pafiliwn. fydd yn costio £2.4 miliwn yn ôl y grŵp - gan gynnwys grant adeilad newydd gan Gynulliad Cymru.
Maent yn cwestiynu a fydd cynlluniau'r cyngor ar gyfer yr adeilad newydd byth yn digwydd oherwydd yr hinsawdd ariannol bresennol.
Ymateb Cyngor Sir Ddinbych:
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych "Mae wastad wedi bod yn fwriad i drosglwyddo'r safle i ymddiriedolaeth gymunedol, felly nid oes gan hyn ddim i'w wneud â grant gan y llywodraeth.
"Unwaith y byddwn wedi dymchwel byddwn yn edrych ar drosglwyddo'r tir i ymddiriedolaeth elusennol newydd ac yn gweithio gyda nhw i ddatblygu cynigion fydd yn cael cefnogaeth lawn gan y gymuned.
"Ni fydd y trosglwyddiad yn digwydd nes bod y Pafiliwn wedi cael ei dymchwel. Nid yw'r dyddiad ar gyfer y dymchwel wedi ei gytuno eto ".
Straeon perthnasol
- Published
- 22 Medi 2014
- Published
- 18 Awst 2014
- Published
- 26 Mawrth 2014
- Published
- 22 Medi 2014