Pryderon am ffracio wrth i gynlluniau gael eu cymeradwyo

protest
Image caption Protestwyr yn erbyn ffracio y tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd

Mae ymgyrchwyr yn dweud na fyddant yn rhoi'r gorau i'r frwydr yn erbyn cwmni ynni fydd yn cynnal profion drilio am nwy ger Wrecsam.

Daw'r sylwadau ar ôl i arolygwr cynllunio Llywodraeth Cymru wrthdroi penderfyniad gan gyngor Wrecsam i atal y cynlluniau ger Borras.

Mae cwmni ynni GP yn bwriadu archwilio'r gwely glo ar gyfer nwy methan rhwng Holt a Gresffordd gyda 60 diwrnod o ddrilio wedi ei gynllunio.

Ond mae gwrthwynebwyr yn pryderu bydd hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer echdynnu mwy o adnoddau naturiol yn y dyfodol.

Mae'r cwmni wedi mynnu yn y gorffennol mai drilio archwiliadol yn unig yw eu bwriad ac nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer ffracio - sy'n ddull dadleuol o echdynnu nwy o graig - yn y tymor hir.

Mae Luke Ashley, o fudiad 'Gwrth Ffracio Gogledd Ddwyrain Cymru', wedi dweud bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Wrecsam yn ddiweddarach ym mis Hydref er mwyn trafod goblygiadau'r sêl bendith sydd wedi ei roi ar gyfer drilio ar dir Fferm Commonwood, ym mhentref Holt.

"Mae hyn yn caniatáu i'r cwmni gael eu troed yn y drws," meddai.

"Mae llawer o bobl Wrecsam yn ddig."

300 yn protestio yn Nghaerdydd

Mewn datblygiad arall fe ddaeth tua 300 o botestwyr i risiau'r Senedd yng Nghaerdydd i wrthdystio yn erbyn ffracio dydd Sadwrn.

Roedd yr ymgyrchwyr Cyfeillion y Ddaear a "Cymru Di -Ffrac" yn cynnal eu digwyddiad protest fel rhan o ymgyrch rhyngwladaol yn erbyn ffracio.

Fe gyflwynwyd deiseb i swyddfa'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.