Bale: Cymru yn canolbwyntio ar guro Cyprus
- Cyhoeddwyd

Mae Gareth Bale yn dweud fod y gêm gyfartal yn erbyn Bosnia-Hercegovina wedi rhoi hyder newydd ar gyfer y gêm ragbrofol nesaf, sef nos Lun yn erbyn Cyprus.
Ac mae'r chwaraewr o glwb Real Madrid yn anelu at fuddugoliaeth.
"Byddwn yn dechrau'r gêm yn erbyn Cyprus yn llawn hyder, ond mae angen i ni ffocysu a chanolbwyntio," meddai Bale.
"Mae angen i ni gael y tri phwynt.
"Gobeithio y gallwn gael torf fawr arall yma ar nos Lun a chael y tri phwynt."
Bydd yn rhaid i Gymru wynebu Cyprus heb y chwarawr canol-cae Jonathan Williams, sydd wedi anafu ei bigwrn. Mae disgwyl i Hal Robson-Kanu chwarae yn ei le.
Yn erbyn Bosnia, roedd cyfleoedd yn brin i'r ddwy ochr yn ystod hanner cyntaf tynn, ond daeth y gêm yn fyw ar ôl yr egwyl gyda chyfleoedd yn dod i'r ddau dîm.
Gwnaeth Wayne Hennessey arbediad rhagorol i rwystro Miralem Pjanic Edin Dzeko a gorfododd Bale Asmir Begovic i wneud dau arbediad - gan gynnwys un yn yr eiliadau olaf.
Fe beniodd y Capten Ashley Williams a Hal Robsonr-Kanu heibio'r gôl o ddwy gic cornel, ond dywedodd Bale y gallai Cymru fod yn fodlon gydag un pwynt yn erbyn tîm a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng Nghwpan y Byd 2014.
"Rydym yn awyddus i ennill pob gêm, ond rwyf yn meddwl fod neithiwr yn ganlyniad da iawn yn erbyn un o ffefrynnau'r grŵp," ychwanegodd Bale.
"Rwy'n credu ein bod wedi dangos cymeriad ac ysbryd gwych.
"Roedd yn berfformiad tîm gwych ac roeddem yn anlwcus i beidio â chymryd rhywbeth allan o'r gêm."
Calonogwyd y tîm gan dorf o 30,741 - sy'n record ar gyfer gêm ryngwladol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bu Bale yn talu teyrnged i gefnogwyr Cymru, a dywedodd ei fod yn gobeithio am niferoedd tebyg pan fydd y tîm yn chwarae Cyprus nos lun.
Colli oedd hanes Cyprus o ddwy gol i un gartref yn erbyn Israel nos Wener.
"Rydym yn teimlo ein bod wedi troi cornel ac mae'r cefnogwyr wedi bod yn hollol anhygoel. Roedd yn wych cael llond stadiwm bron, a gobeithio ein bod wedi gwneud iddynt deimlo'n falch," meddai Bale.