Llofruddiaeth Wrecsam: Arestio tri
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi arestio tri o bobol yn dilyn llofruddiaeth yn Wrecsam yn ystod oriau mân dydd Sadwrn.
Fe ddaeth y gwasanaethau brys o hyd i ddyn 25 oed wedi marw yn ffordd Deva yn ardal Parc Caia.
Mae ei deulu yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd gan swyddogion cyswllt teulu hyfforddedig.
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un a oedd yn ardal Ffordd Deva yn Wrecsam rhwng 18:30 nos Wener a 01:00 fore Sadwrn gysylltu â nhw ar 101.