Tri phwynt i Gasnewydd
- Published
Roedd rhaid i Gasnewydd ymdopi heb wasanaeth Mark Byrne ac Andy Sandell, gan fod y ddau wedi eu hatal ar ôl derbyn eu pumed cerdyn melyn o'r tymor penwythnos diwethaf.
Gadawyd Adam Chapma, Mike Flynn a Mark Porter allan o'r garfan oherwydd anafiadau.
Wrth wneud ei ymddangosiad cyntaf i Efrog ers arwyddo ar fenthyciad o Sheffield United ddydd Iau, llwyddodd Diego de Girolamo roi'r ymwelwyr ar y blaen wrth iddo daro'r bel i gefn y rhwyd o fewn saith munud.
Ar ôl dechrau sigledig i Gasnewydd, daethant yn ôl yn yr ail hanner. Cafodd capten Efrog, Russell Penn, ei anfon o'r cae am dderbyn ei ail gerdyn melyn, a llwyddodd Casnewydd i unioni'r sgôr, wrth i Andrew Hughes sgorio.
Aeth Casnewydd o nerth i nerth, wrth iddynt fanteisio ar y ffaith fod Caer Efrog un dyn yn brin, fe ychwanegodd Chris Zebroski (65 munud) a Darren Jones (72 munud) at y sgor.
Mynychodd 2,822 o gefnogwyr y gêm.