Y dathlu ar ben yn Wrecsam
- Published
Difethodd Tref Grimsby ddathliadau 150 mlynedd sefydlu Clwb Pêl-droed Wrecsam, drwy guro'r dreigiau ar y Cae Ras heddiw.
Aeth Grimsby ar y blaen pan aeth Aswad Thomas i'r llawr yn y blwch cosbi, ar ol tacl gan Mark Carrington, gan ildio cic o'r smotyn i Grimsby.
Tarodd Lenell John-Lewis y bêl i gornel y rhwyd, gan roi'r ymwelwyr ar y blaen.
Daeth llygedyn o obaith yn yr ail-hanner i Wrecsam, pan ddaeth Elliott Durrell ymlaen oddi ar y fainc, gan sbarduno bywyd i dîm blinedig Wrecsam.
Ond daeth gobeithion Wrecsam i ben pan anfonwyd Louis Moult o'r maes am dacl hwyr ar Craig Disley.
Dywedodd cyn-chwaraewr Wrecsam, Wayne Phillips wrth raglen BBC Radio Cymru, Camp Lawn: "Dwi'n siomedig iawn, a dwi'n siŵr fydd neb yn fwy siomedig na Kevin Wilkin, ond chwarae teg i Grimsby, fe chwaraeo' nhw'n daclus iawn, ac mae'n amlwg mae cael y gôl gynta' na yn gwneud gwahaniaeth."
Daeth mwy na 8,000 o bobl gefnogi tîm mwyaf gogledd Cymru, tyrfa enfawr yn y Gyngres.
Straeon perthnasol
- Published
- 11 Hydref 2014