Dyn yn ddifrifol wael yn dilyn 'digwyddiad' yng Nghaerdydd
- Published
Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad yn ardal Sblot, Caerdydd.
Yn ôl yr heddlu mae'r dyn yn ddifrifol wael.
Cafodd ardal o amgylch Stryd Adeline yn Sblot ei gau i'r cyhoedd am gyfnod dydd Sadwrn.
Nid yw Heddlu De Cymru yn fodlon rhoi unrhyw fanylion pellach.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod y dyn wedi cael ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru.
Cafodd tîm ambiwlans a thîm ymateb i sylweddau peryglus eu hanfon i'r digwyddiad.
Yn ol adroddiadau lleol roedd nifer fawr o heddlu yno am gyfnod wrth i'r gwasnaethau brys ymateb.