Damwain angheuol yn Ngwent
- Published
Bu farw dyn 38 oed mewn damwain ffordd ger pentref Pontllanfraith yng Ngwent.
Fe ddigwyddodd y ddamwain tua hanner awr wedi pump brynhawn Gwener.
Roedd gwrthdrawiad rhwng Volkswagen Bora arian a Vauxhall Astra coch ar y B4251 yn Wyllie.
Roedd y dyn a fu farw yn hanu o ardal Cwmfelinfach. Yn ôl yr heddlu, ef oedd gyrrwr y Volkswagen.
Mae'r heddlu yn cynorthwyo teulu'r dyn a fu farw ac maen nhw wedi apelio am dystion i'r digwyddiad.
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101.