Dyn wedi marw yn Sblot, Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Bu farw dyn yn dilyn digwyddiad yn ardal Sblot, Caerdydd. Wrth i'r ymwchiliad barhau, mae'r heddlu wedi cyfeirio'r digwyddiad at Gomisiwn Cwynion yr Heddlu.
Roedd ardal o amgylch Stryd Adeline ar gau i'r cyhoedd am gyfnod dydd Sadwrn yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod y dyn wedi cael ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru.
Cafodd tîm ambiwlans a thîm ymateb i sylweddau peryglus eu hanfon i'r digwyddiad.
Yn ol adroddiadau lleol roedd nifer fawr o heddlu yno am gyfnod wrth i'r gwasnaethau brys ymateb.
Mewn datganiad newyddion dywedodd yr heddlu:
"Mae Heddlu'r De yn cadarnhau fod dyn 41 oed a gafodd ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru ddoe wedi marw o'i anafiadau.
"Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i'r tŷ ar ôl i bryderon gael eu mynegi am les y dyn.
"Mae'r ymchwiliad yn parhau ac mae'r Crwner wedi ei hysbysu.
Mae'r mater wedi ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion yr Heddlu. Bydd archwiliad post mortem yn digwydd heddiw."