Y Gweilch ar y brig ar ôl curo'r Gleision
- Cyhoeddwyd
Pro12: Gweilch 26-15 Gleision
Mae record 100% y Gweilch yn y Rabodirect 12 yn parhau, ar ôl iddyn nhw fwynhau buddugoliaeth yn erbyn y Gleision yn Abertawe.
Mae'r canlyniad yn golygu bod y Gweilch yn ôl ar ben Cynghrair Pro12.
Fe aeth y Gweilch ar y blaen gyda chymorth cicio Dan Biggar, ac ar ôl i Sam Warburton gael ei ddanfon i'r gell cosb yn yr hanner cyntaf, roedd yr ymwelwyr yn wynebu tasg anodd iawn.
Sgoriodd y cefnwr Dan Evans gais yn yr hanner cyntaf, ac fe ddaeth ail gais y tîm cartref gan y mewnwr Rhys Webb yn yr ail hanner.
Roedd cyfraniad cicio Biggar i'r cyfanswm yn 16 pwynt wrth iddo reoli cyfnodau hir o'r gêm.
Tua'r diwedd fe ddaeth rhywfaint o gysur i dîm y brifddinas - yr eilyddion Lloyd Williams a Kristian Dacey yn sgorio yn y munudau olaf.
Erbyn hynny roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel yn nwylo'r Gweilch.
'Doedd gan Adam Jones fawr o gyfle i fwynhau ei ymweliad a'i gyn glwb, wrth i reng flaen y Gweilch ennill sawl brwydr yn y sgrym, gan roi cyfleoedd cyson i Biggar anelu at y pyst.