Y Chi a Mesur Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Siân Powell yn ddarlithydd yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn gwneud doethuriaeth ar ddylanwad y cyfryngau ar ddatganoli. Wrth drafod beth allai Mesur Cymru ei olygu i bobl ar lawr gwlad, mae'n codi cwestiwn hefyd a fydd digon o graffu ar brosesau yn y dyfodol.
Newidiadau i'r Cyfansoddiad
Fis yn ôl roedd y newyddion yn llawn straeon ynglŷn â refferendwm yr Alban a'r mwyafrif o'r sylw yng Nghymru yn cael ei roi i beth allai'r canlyniad olygu i ni yma yng Nghymru.
Mis yn ddiweddarach mae'r sylw wedi tawelu - mae'r papurau newydd Prydeinig yn trafod 'English votes for English laws' - ond ychydig iawn o sylw sy'n cael ei roi i'r newidiadau sydd ar waith yma yng Nghymru.
A hyn oll mewn cyfnod lle mae dadlau brwd ynglŷn â Mesur Cymru, allai gael effaith sylweddol ar fywydau trigolion Cymru.
Rydym yn clywed digon ynglŷn â llwyddiant UKIP yn yr is etholiadau diweddar, ond a oes digon o sylw yn cael ei roi i'r polisïau hynny sy'n effeithio arnom ni yma yng Nghymru?
Faint o bobl fydd yn ymwybodol bod newidiadau ynglŷn â threth incwm a'r ffordd mae Cymru'n cael ei ariannu yn digwydd ar hyn o bryd?
Treth incwm
Wythnos yma mae Tŷ'r Arglwyddi yn trafod Mesur Cymru. Ond beth yn union yw Mesur Cymru? A sut allai gael effaith ar fywydau trigolion Cymru?
Yn gyntaf, gall ein treth incwm gael ei newid a'i gasglu gan Lywodraeth Cymru - ond byddai angen cynnal refferendwm er mwyn trosglwyddo'r pŵer hwn i Gymru.
Byddai hynny'n rhoi'r hawl i Lywodraeth Cymru bennu cyfradd wahanol ar gyfer pob band treth incwm.
Gall y Mesur hefyd gynyddu'r nifer o feysydd polisi datganoledig, hynny yw y meysydd polisi sydd dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Bydd hyn yn rhoi setliad datganoledig sy'n debycach i setliad yr Alban ac yn gwneud hi'n gliriach pa lywodraeth sydd gyda'r hawl i reoli pa faes polisi, a lleihau nifer yr achosion sy'n cael eu trosglwyddo i'r Goruchaf Lys.
Yn drydydd, gall y grym dros etholiadau'r Cynulliad gael ei drosglwyddo i Gymru ac felly hefyd y grym i gynnal refferendwm.
Yn olaf, gall y pŵer i ddewis a newid nifer yr Aelodau Cynulliad gael ei drosglwyddo i Gymru.
'Scriwtini?'
Mae nifer o adroddiadau wedi nodi'r angen am ragor o aelodau yn y Cynulliad Cenedlaethol, felly gall y Mesur olygu bod mwy o Aelodau Cynulliad yn cael eu hethol yng Nghymru.
Mae rhain i gyd yn newidiadau sylweddol byddai'n cael effaith ar ein bywyd ni yng Nghymru, ond ble mae'r scriwtini?
Lle mae'r ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd?
Mae gwir angen sicrhau bod digon o scriwtini yn cael ei roi i'r newidiadau sylweddol hyn, a bod digon o ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o'r newidiadau, er mwyn sicrhau bod Cymru ddim yn troi'n wlad ddiarth i'w thrigolion ei hun.
Beth ydych chi'n feddwl o'r newidiadau posib? Cysylltwch gyda ni arcymrufyw@bbc.co.uk