Cymru 'angen curo' Cyprus yn ôl Ashley Williams

  • Cyhoeddwyd
Ashley Williams

Mae capten Cymru, Ashley Williams yn dweud bod rhaid i Gymru guro Cyprus yn eu gêm ragbrofol ar gyfer Euro 2016 yng Nghaerdydd nos Lun.

Cymru sydd ar frig grŵp B yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Andorra ym mis Medi, a gêm gyfartal yn erbyn Bosnia-Hercegovina nos Wener.

Llwyddodd Cyprus i guro Bosnia-Hercegovina oddi cartref, ond fe gollon nhw yn erbyn Israel ddydd Gwener.

"Rydyn ni'n gwybod, yn enwedig ar ôl i ni gael gêm gyfartal [yn erbyn Bosnia] bod angen i ni ennill y gêm yma," meddai Williams.

"Os ydyn ni am wneud rhywbeth yn y grŵp yma, mae hwn yn un mae'n rhaid i ni ennill.

"Rydyn ni'n gwybod eu bod nhw'n dîm peryglus yn amlwg, ar ôl beth ddigwyddodd yn Bosnia."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Aeth Ashley Williams yn agos iawn at gipio'r pwyntiau yn erbyn Bosnia-Hercegovina nos Wener

Daeth torf o 30,741 i wylio'r gêm ddi-sgor yn erbyn Bosnia-Hercegovina nos Wener, record newydd ar gyfer gemau Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Methodd Williams gyfle gwych i gipio'r pwyntiau i Gymru yn y gêm honno, gan benio dros y trawst o gic rydd Gareth Bale.

"Dwi'n obeithiol am gyfle arall ddydd Llun," meddai, "a gobeithio y bydd 'na ganlyniad gwahanol y tro 'ma."

Mae disgwyl torf fawr arall i wylio'r gêm yn erbyn Cyprus, ac mae tua 15,000 o docynnau wedi eu gwerthu yn barod.

Ychwanegodd Williams: "Gobeithio bod y cefnogwyr wedi clywed faint rydyn ni eu hangen nhw, yn enwedig pan mae'r coesau yn dechrau blino... roedd y cefnogwyr yn rhoi hwb ychwanegol i ni.

"Dyna oedd y dorf orau i mi chwarae o'u blaenau i Gymru, yn sicr. Roedden nhw y tu ôl i ni drwy'r gêm."

'Grŵp agored'

Mae'r ddau dîm sy'n gorffen yn gyntaf ac ail ym mhob grŵp yn sicr o'u llefydd yn Euro 2016, yn ogystal â'r tîm sydd a'r record orau o'r rhai sy'n gorffen yn drydydd.

Bydd wyth tîm arall yna yn chwarae yn y gemau ail gyfle ym mis Tachwedd 2015.

Os all Cymru guro Cyprus, maen nhw'n sicr o ddechrau eu gem nesaf, oddi cartref yn erbyn Gwlad Belg ar Dachwedd 16, ar frig y grŵp.

"Dwi'n meddwl bod hi'n grŵp agored yn sicr, fel rydyn ni wedi ei weld o'r gemau cyntaf," meddai Williams.

"Gallwn ni ond trio edrych ar ôl ein hunain a thrio sicrhau pwyntiau ac yna does dim rhaid i ni boeni am be' mae pawb arall yn ei wneud."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cyprus yn mynnu nad Gareth Bale yw unig berygl tim Cymru

Er iddo gael ei farcio yn agos gan Muhamed Besic yn erbyn Bosnia-Hercegovina nos Wener, nid Gareth Bale yw unig chwaraewr peryglus Cymru, yn ôl rheolwr Cyprus.

"Dydyn ni ddim yn chwarae yn erbyn Bale yn unig, mae tîm cyfan Cymru yn gryf," meddai Charalampos Christodoulou.

"I dîm fel Cyprus does dim gemau hawdd. Mae pob un o'n gwrthwynebwyr yn ffefrynnau. Mae Cymru yn dîm o'r safon uchaf.

"Er nad yw Cymru yn un o enwau mawr pêl-droed rhyngwladol, maen nhw yn dîm cryf iawn a bydd angen i ni fod yn ofalus."

Bydd Cymru heb 11 o chwaraewyr ar gyfer y gêm yn erbyn Cyprus nos Lun, ar ôl i Jonathan Williams dynnu'n ôl oherwydd anaf.

Mae'n debyg y bydd Hal Robson-Kanu yn dod i mewn i'r tîm yn ei le.

Cafodd Jonathan Williams ei ddewis ar ôl anafiadau i'r chwaraewyr canol cae Aaron Ramsey, Joe Allen, Andrew Crofts, David Vaughan ac Emyr Huws.