Hysbysebu'r newid i'r drefn rhoi organau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Myfyrwyr a chymudwyr fydd targedau ymgyrch hysbysebu newydd, sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o newid i'r gyfraith ynglŷn â rhoi organau.
O fis Rhagfyr 2015, bydd meddygon yn cymryd yn ganiataol bod person yn fodlon rhoi eu horganau ar ôl marw, heblaw eu bod nhw yn cofrestru i ddweud fel arall.
Bydd yr hysbysebion i'w gweld ar hyd gwasanaethau Trenau Arriva Cymru ac ar gampysau prifysgolion.
Mae'n dilyn cyfres o hysbysebion teledu gafodd eu dangos dros yr haf.
'Dechrau sgwrs'
Gobaith llywodraeth Cymru yw cynyddu'r canran sy'n rhoi eu horganau o 25%, a dechrau sgwrs rhwng teuluoedd am ddymuniadau pobl.
Yn ôl y llywodraeth, fe wnaeth 36 o bobl farw wrth aros am organ newydd yng Nghymru y llynedd.
Un sydd wedi rhoi organ yw Dave Starling o Gwmaman, roddodd aren i'w nai.
Cafodd Mr Starling, sy'n 59, ei brofi i weld os oedd yn addas, a cafodd y llawdriniaeth ei chwblhau ym mis Mai 2013.
"Roedd gwneud y penderfyniad i roi un o fy arennau yn un hawdd i'w wneud er i mi wybod bod y llawdriniaeth yn un mawr.
"Roedd rhaid i mi gymryd pedair mis i ffwrdd o'r gwaith ac rydw i'n blino yn gynt nac o'r blaen, ond mae'n bris isel i'w dalu i weld fy nai yn cael ei fywyd yn ôl.
"Mae o a finnau yn profi bod rhoi organau yn gweithio ac nad oes angen ofni'r peth.
"Galla i fyw gweddill fy mywyd yn gwybod mod i wedi helpu i achub bywyd rhywun arall. Dyna fy ngwobr."
Straeon perthnasol
- 7 Gorffennaf 2014
- 2 Gorffennaf 2013