Heddlu'n holi tri person wedi llofruddiaeth yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi ei rhoi ar Deva Way ym Mharc Caia
Mae'r heddlu yn parhau i holi un dyn a dwy ddynes, a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 25 oed yn Wrecsam.
Cafodd y dyn, sydd wedi ei enwi yn lleol fel Siôn Davies, ei ddarganfod yn oriau man bore Sadwrn yn Deva Way, Parc Caia.
Mae teyrngedau wedi eu rhoi ar y safle gan deulu a ffrindiau.
Mae Heddlu'r Gogledd am siarad gyda phobl oedd yn yr ardal rhwng 18:30 nos Wener a 01:00 fore Sadwrn.
Cafodd rhan o'r ffordd ei chau gan yr heddlu ddydd Sadwrn