Amazon i gyflogi 1,000 yn ychwanegol
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, AFP/Getty
Mae cwmni Amazon yn dweud eu bod yn mynd i greu 1,000 o swyddi newydd mewn canolfannau dosbarthu ledled y DU.
Mae Amazon yn cyflogi 6,000 yn eu canolfannau dosbarthu ar hyn o bryd, gan gynnwys un yn Abertawe.
"Wrth i'r galw am ein cynnyrch gynyddu bydd angen i ni gynyddu maint y gweithlu," meddai cyfarwyddwr Amzaon yn y DU, John Tagawa.
Mae gan Amazon wyth o ganolfannau dosbarthu ym Mhrydain, gan gynnwys un ym Mae Abertawe.
Mae'r saith canolfan arall yn Doncaster, Dunfermline, Gourock, Hemel Hempstead, Milton Keynes, Peterborough a Rugeley.
Dywed Amazon eu bod wedi creu 2,000 o swyddi newydd dros y ddwy flynedd diwethaf.