Cwest: Diffoddwyr wedi nofio i gartref Margaret Hughes

  • Cyhoeddwyd
Flooding in St Asaph, Denbighshire, in November 2012Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth afon Elwy orlifo yn Nhachwedd 2012.

Clywodd cwest i farwolaeth dynes 91 oed y bu'n rhaid i griwiau'r gwasanaethau brys nofio drwy lifogydd er mwyn achub pobl o'u cartrefi.

Cafwyd hyd i gorff Margaret Hughes, 91, yn ei byngalo yn Llanelwy, Sir Ddinbych yn Nhachwedd 2012 yn dilyn llifogydd.

Yn y cwest yn Rhuthun, disgrifiodd Richard Evans, diffoddwr tân rhan amser, sut iddo achub dynes feichiog o lawr cyntaf ei chartref, cyn iddo ddod yn ymwybodol o sefyllfa Mrs Hughes.

Dywedodd ei fod ef a diffoddwyr eraill wedi nofio tua 100 metr i lawr stryd llawn dŵr.

Ffynhonnell y llun, North Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd hyd i gorff Mrs Hughes yn ei chartef

Dywedodd Mr Evans fod y dŵr i fyny i'w ganol pan aeth i gartref Mrs Hughes. Aeth i mewn i'r tŷ a chwilio'r ystafell ar y chwith, tra bod diffoddwr arall wedi mynd i'r dde.

Yna clywodd y diffoddwr arall yn dweud: "Mae yna farwolaeth."

Dywedodd Mr Evans ei fod wedi mynd i'r ystafell a gweld corff Margaret Hughes yn y dŵr.

Yr wythnos diwethaf clywodd y cwest fod Mrs Hughes wedi cael cynnig i adael ei chartre' yng nghwmni cymdogion, ond ei bod wedi penderfynu aros.

Mae disgwyl i'r cwest ddod i ben ddydd Mawrth.