Darlledwyr am gynnal dadleuon teledu
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru wedi ysgrifennu at y prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn eu gwahodd i drafod y posibilrwydd o gynnal dadleuon teledu cyn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesa.
Mae llythyrau wedi eu hanfon at y blaid Lafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a UKIP.
Ar yr un pryd mae'r BBC, ITV, BSkyB a Channel 4 wedi gwahodd arweinwyr y pleidiau Prydeinig - gan gynnwys Nigel Farage, arweinydd UKIP - i gymryd rhan mewn tair dadl deledu ym mis Ebrill y flwyddyn nesa'.
Byddai'r dadleuon teledu hynny yn cael eu darlledu ledled y DU.
Beirniadaeth
Mae tair dadl wedi cael eu cynnig ar gyfer cynulleidfa Brydeinig:
- Dadl rhwng y ddau ddyn sydd â siawns o fod yn Brif Weinidog sef David Cameron ac Ed Miliband wedi ei chadeirio gan Jeremy Paxman, i'w dangos ar Sky a Channel 4.
- Dadl rhwng arweinwyr y tair prif blaid Brydeinig fydd yn cynnwys Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg, i'w dangos ar y BBC.
- Trydydd dadl fydd yn cynnwys y tri arweinydd a Nigel Farage o Ukip, i'w dangos ar ITV.
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu'r syniad, gan ddweud y dylai eu harweinydd, Leanne Wood, gael ei chynnwys mewn dadl o'r fath.
Dywedodd Ms Wood: "Fe fydd Plaid Cymru yn mynd i'r etholiad cyffredinol gyda pholisiau i wella gwasanaethau cyhoeddus ac i wella economi Cymru.
"Mae pobl Cymru yn haeddu clywed beth sydd gan yr holl bleidiau i'w gynnig, a byddwn yn cymryd camau pendant i sicrhau fod hyn yn digwydd."
Mae'r Blaid Werdd a'r SNP hefyd yn anfodlon o gael eu gadael allan o'r tair prif ddadl.
Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod nhw am gael eu cynrychioli yn y tri darllediad yn hytrach na dim ond dau ac mae Ukip wedi dweud bod achos dros eu cynnwys yn yr ail ddadl hefyd.
Y dyddiadau sydd wedi eu hawgrymu ar gyfer y darllediadau Prydeinig yw Ebrill 2, 16 a 30, cyn yr etholiad ar Fai 7.
Dadleuon Cymru
Yn ogystal â'r dadleuon cenedlaethol, mae cyfarwyddwyr y BBC yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi ysgrifennu at y prif bleidiau ym mhob un o'r gwledydd, yn eu gwahodd i drafod y posibilrwydd o gynnal dadleuon teledu.
Byddai'r dadleuon yn cael eu darlledu yn y gwledydd unigol, ond hefyd ar gael i weddill y DU.
Cafodd dadleuon teledu o'r fath eu darlledu am y tro cyntaf yn 2010, pan aeth David Cameron, Gordon Brown a Nick Clegg benben a'i gilydd.
Fe wnaeth 22 miliwn o bobl wylio'r dadleuon hynny.
Straeon perthnasol
- 4 Mawrth 2010
- 2 Mawrth 2010
- 22 Rhagfyr 2009
- 10 Mawrth 2010