Carchar am ladd dyn oedd wedi ceisio atal trais
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod dyn wedi cael ei ladd ar ôl cael ei ddyrnu yn ei ben mewn tafarn.
Roedd Jake Sweeney, 26, wedi ymyrryd i geisio stopio pobl rhag ymladd, pan gafodd ei daro ei hun.
Fe syrthiodd i'r llawr gan dorri ei benglog.
Cafodd Jason Grovell, 24 o Gaerffili ei garcharu am bedair blynedd ar ôl pledio'n euog i ddynladdiad.
Clywodd y llys fod Grovell, tad i un, wedi bod yn yfed ac wedi cymryd cocên.
Dechreuodd yr ymladd tu allan i dafarn yr Irish Tymes a cheisiodd Mr Sweeney ymyrryd.
Cafodd ei daro yn ei ben a bu farw pedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Mewn datganiad dywedodd ei dad Mark Sweeney: "Rwyf wedi torri fy nghalon, byddaf yn colli Jake am weddill fy mywyd. Ni fydd bywyd fyth yr un fath."
Dywedodd y barnwr Eleri Rees wrth Grovell: "Roedd hwn yn weithred lwfr. Ni wnaeth Mr Sweeney weld y dwrn yn cael ei daflu ac felly ni chafodd gyfle i amddiffyn ei hun."