Arestio pedwerydd person wedi llofruddiaeth yn Wrecsam

Deva Way, Wrecsam
Image caption Mae teyrngedau wedi ei rhoi ar Deva Way ym Mharc Caia

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 25 oed yn Wrecsam wedi arestio pedwerydd person.

Cafodd y dyn 28 oed ei arestio brynhawn Llun ac mae'n cael ei holi yn y ddalfa.

Yn y cyfamser mae'r heddlu yn parhau i holi dyn 53 oed, dynes 54 oed a dynes 35 oed. Cafodd y tri eu harestio dros y penwythnos ac maen nhw'n cael eu holi yng ngorsaf Llanelwy.

Cafodd y dyn, sydd wedi ei enwi yn lleol fel Siôn Davies, ei ddarganfod yn oriau man bore Sadwrn yn ar Ffordd Deva, Parc Caia.

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad gyda phobl oedd yn yr ardal rhwng 18:30 nos Wener a 01:00 fore Sadwrn.

Image caption Cafodd rhan o'r ffordd ei chau gan yr heddlu ddydd Sadwrn

Straeon perthnasol