Gwobr gerddoriaeth Cymru: Rhestr fer
- Cyhoeddwyd

Mae'r rhestr fer ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Cymru wedi cael ei chyhoeddi fore dydd Mawrth.
Cafodd y wobr ei chreu yn 2011 gan y DJ Huw Stephens, o BBC Radio 1, a'r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron - mae'r ddau hefyd yn drefnwyr Gŵyl Sŵn.
Nod y wobr yw cydnabod cerddoriaeth amrywiol sydd â'i gwreiddiau yng Nghymru.
Mae naw albwm ar y rhestr fer am eleni :-
- 9 Bach - Tincian;
- Cate Le Bon - Mug Museum;
- Euros Childs - Situation Comedy;
- Future of the Left - How To Stop Your Brain In An Accident;
- Gruff Rhys - American Interior;
- Gulp - Season Sun;
- Joanna Gruesome - Weird Sister;
- Manic Street Preachers - Futurology;
- Samoans - Rescue;
- Slowly Rolling Camera - Slowly Rolling Camera;
- The Gentle Good - Y Bardd Anfarwol;
- The People The Poet - The Narrator.
'Blwyddyn wych'
Dywedodd Huw Stephens: "Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych arall i albymau Cymreig ac mae'r rhestr yn adlewyrchu hynny.
"Y panel ar-lein oedd yn gyfrifol am y rhestr ac mae sawl albwm gwych sydd heb ei chyrraedd... ond mae'r rhai sydd yma i gyd yn wych ac fe fyddwn i'n annog pawb i wrando arnyn nhw.
"Rydym yn falch iawn o'r ymateb i Wobr Gerddoriaeth Cymru ers i ni ei lansio dair blynedd yn ôl, a phob lwc i bawb sydd wedi'u henwebu."
Bydd y noson wobrwyo'n cael ei chynnal ar nos Wener, 28 Tachwedd, ac mae'r panel fydd yn penderfynu'r enillydd yn cynnwys Helen Weatherhead (BBC 6Music), Owain Schiavone (Y Selar) a David Wrench (Cynhyrchydd).
Georgia Ruth gipiodd wobr y llynedd am ei halbwm Week of Pines, a'r enillwyr blaenorol yw Gruff Rhys am Hotel Shampoo (2010-11) a Future of the Left am The Plot Against Common Sense (2011-12).