Dod o hyd i gofeb yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

Cofeb ryfel Pendre Image copyright Karen Griffiths
Image caption Mae'r gofeb yn rhestru enwau 27 o filwyr

Ddegawdau ar ôl cael ei golli mae cofeb sy'n rhestru enwau milwyr a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cael ei ddarganfod mewn seler yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu.

Roedd y gofeb, sydd wedi ei gwneud o farmor yn rhestru enwau 27 o gyn ddisgyblion Ysgol Pendre a fu farw yn ystod y brwydro.

Cafodd y gofeb ei gosod yn yr ysgol yn 1920, ond aeth ar goll wrth i'r ysgol gau ei drysau yn y 1970au.

Dyn sy'n perthyn i'r rhai o'r rhai sydd wedi eu rhestru ddaeth o hyd i'r gofeb yn hel llwch yn seler yr Eglwys Gadeiriol.

Nawr bydd crefftwyr yn adfer y gofeb a bydd yn cael ei gosod yn ôl yn yr hen ysgol, sydd erbyn hyn yn ganolfan deuluol.

Ailgysegru

Mae cymdeithas hanes lleol hefyd wedi penderfynu ymchwilio i hanes y cyn-ddisgyblion. Maen nhw am wybod am eu hanes ac yn awyddus i ddod o hyd i'w teuluoedd.

Yna bydd seremoni yn cael ei chynnal er mwyn ailgysegru'r gofeb.

Mae teulu Bethan Williams wedi bod yn flaenllaw yn yr ymgyrch i godi arian er mwyn sicrhau bod digon o arian i gwblhau'r prosiect ailgysegru.

Fe wnaeth Ms Williams golli tri hen ewythr yn y rhyfel, Alfred, Arthur a Philip Pritchard. Roedd y tri yn gyn ddisgyblion yn Ysgol Pendre.

Image copyright Jaggery
Image caption Cafwyd hyd i'r gofeb mewn selar