Mynd i'r fan a'r fan

Gyda rhyw chwe mis i fynd tan yr etholiad cyffredinol un o'r tasgau sy'n wynebu darlledwyr yw ceisio penderfynu ym mha ganolfannau cyfri i leoli camerau a gohebwyr. Mewn geiriau eraill rhaid yw gweithio mas lle mae'r straeon mwyaf yn debyg o ddigwydd.

Ar y cyfan rydym yn broffwydi gweddol lwyddiannus er bod ambell i gamgymeriad wedi digwydd ar hyd y blynyddoedd. Doedd dim camera yng Ngheredigion pan gurodd Cynog Dafis Geraint Howells, er enghraifft, a lluniau o drannoeth yw'r rheiny o ddathliadau Plaid Cymru yn Rhondda ac Islwyn yn 1999.

Wrth baratoi ar gyfer etholiad 2015 mae'r dewisiadau'n haws mewn un ffordd. Mae datblygiadau technolegol yn golygu bod modd bod yn bresennol mewn llawer mwy o ganolfannau nac yn y gorffennol. Ar y llaw arall mae'r rhestr o etholaethau a allasai fod yn ddiddorol yn un ryfeddol o faith ac mae'r dyddiau pan oedd modd proffwydo'r enillwyr yn nhri chwarter y seddi Cymreig wedi darfod.

Rwyf wedi crybwyll Merthyr a Rhymni fel sedd i wylio o'r blaen. Rhwng 1997 a 2010 fe wnaeth y mwyafrif Llafur ostwng o 27,086 i 4,056. Y gynharach eleni yn ardal cyngor Merthyr, sydd â ffiniau ychydig yn wahanol i'r etholaeth, sicrhaodd Llafur 39% o'r bleidlais. Roedd Ukip wrth ei sodlau gyda 34%.

Nid Merthyr a Rhymni yw'r sedd annisgwyl i haeddu sylw chwaith. Beth fyddai effaith pleidlais Ukip gref yn Llanelli, er enghraifft? Prin pum mil o bleidleisiau oedd yn gwahanu Llafur a Phlaid Cymru y tro diwethaf ac mae canlyniad Ewropeaidd Sir Gar yn awgrymu bod pleidlais y cenedlaetholwyr yn fwy cadarn nac un y sosialwyr.

Yn etholiad Ewrop Ukip oedd ar y blaen ym mhob un o ardaloedd cyngor y gogledd ac eithrio Gwynedd a Môn. Mae'n anodd dychmygu y blaid borffor yn cipio sedd yn y gogledd - ond amhosib yw proffwydo ei heffaith mewn etholaethau a ddylai fod yn gadarn yn y golofn Llafur heb sôn am yr etholaethau ymylol traddodiadol.

Os ydy hyn oll yn achosi trafferthion i ni ddarlledwyr mae'n waeth fyth i'r pleidiau sy'n gorfod penderfynu lle mae buddsoddi arian ac adnoddau. A fydd ffyddloniaid Llafur y cymoedd ar strydoedd Gogledd Caerdydd a Bro Morgannwg yn 2015 neu'n agosach at adre?

Mae'r ffaith fy mod hyd yn oed yn gofyn y cwestiwn hwnnw yn arwydd o ba mor ansicr yw'r hinsawdd wleidyddol wrth i ni dynnu at ddiwedd y senedd bresennol.

.........................