Llofruddiaeth: Rhyddhau dwy ar fechnïaeth

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Deva, Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,
Mae teyrngedau wedi ei rhoi ar Ffordd Deva ym Mharc Caia

Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud bod dwy fenyw gafodd eu harestio mewn perthynas â llofruddiaeth dyn 25 oed yn Wrecsam wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae'r heddlu hefyd wedi cadarnhau mai Sion Davies oedd enw'r dyn y cafwyd hyd i'w gorff y tu allan i eiddo ar Ffordd Deva yn ardal Parc Caia o'r dre yn oriau man bore Sadwrn, 11 Hydref.

Yn y cyfamser mae'r heddlu wedi llwyddo gyda chais i gadw dyn 53 oed a gafodd ei arestio am gyfnod pellach.

Mae dyn arall 32 oed a gafodd ei arestio yn hwyrach na'r tri cyntaf hefyd yn parhau yn y ddalfa yn Llanelwy.

Mae'r heddlu'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad i gysylltu gyda Heddlu'r Gogledd drwy ffonio 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.