Ydi'r Wyddfa wedi tyfu?
- Cyhoeddwyd

Pa mor uchel yw copa'r Wyddfa?
Dydi o ddim yn gwestiwn mor wirion â hynny er mai 1,085 metr yw'r ffigwr sydd ar bob map gan yr Arolwg Ordnans (OS), oherwydd mae tri dyn sydd wedi ymddeol yn treulio'u hamser y dyddiau yma yn ail fesur mynyddoedd.
Eisoes mae Graham Jackson, John Barnard a Myrddyn Phillips wedi defnyddio'r offer diweddaraf i ail fesur rhai o fynyddoedd eraill Eryri - nhw oedd yn gyfrifol am gadarnhau bod Tryfan mewn gwirionedd dros 3,000 o droedfeddi rhai blynyddoedd yn ôl.
Ond wrth siarad gyda chynhyrchydd teledu o Lanberis, Stephen Edwards, fe awgrymodd y tri y byddai cadarnhau mesuriad go iawn yr Wyddfa yn syniad.
Roedd Stephen Edwards wrthi'n ffilmio cyfres The Mountain, sy'n dilyn hynt a helynt nifer o bobl sy'n byw a gweithio ar fynydd uchaf Cymru a Lloegr, pan ddechreuodd hefyd ddilyn y tri mesurydd doeth.
Dywedodd Stephen: "Fe gafodd fy nghwmni i - Cread Cyf - gomisiwn ar y cyd gyda chwmni Slam Media i wneud cyfres o raglenni i ITV Cymru, ond pan siaradais i gyda John, Graham a Myrddyn dyma gynnig syniad arall i ITV ac fe wnaethon nhw feddwl y byddai un rhaglen ychwanegol yn syniad da.
"Rydym wedi ffilmio gyda'r tri wrth iddyn nhw baratoi i wneud y mesuriad a chanfod - yn ôl eu mesuriadau nhw - bod yr Wyddfa mewn gwirionedd yn 1,086m, sef metr yn uwch na'r mesuriad swyddogol.
"Roedd yr holl beth yn ddifyr oherwydd mae cymaint wedi digwydd ar y copa dros y blynyddoedd gyda dyfodiad Hafan Eryri a nifer o bethau eraill.
"Dyw'r OS ddim yn hapus gyda'r mesuriad newydd ac fe wnaethon nhw geisio atal darlledu'r rhaglen, ond gyda rhai newidiadau fe fydd hi'n cael ei darlledu nos Fawrth.
"Dadl yr OS yw mai 1085 yw uchder y mynydd naturiol a bod y metr newydd yn 'man-made' - mae'n gymhleth.
"Fe fyddwn ni nawr yn parhau i gasglu mwy o dystiolaeth er mwyn canfod gwir uchder y mynydd naturiol, a bydd hynny'n golygu defnyddio offer hyd yn oed yn fwy modern gyda chamerâu arbennig sy'n gallu tyrchu i ganfod y graig naturiol."
Mae dros 400,000 o bobl yn dringo i gopa'r Wyddfa bob blwyddyn - mae'n un o fynyddoedd mwyaf poblogaidd Prydain a'r byd o safbwynt ymwelwyr.
Gyda dyfodiad y trên bach a'r caffi ar y copa (cyn i Hafan Eryri agor yn 2009) mae mwy a mwy yn teithio yno ac yn prynu deunydd marchnata gyda'r ffigwr 1085 arnyn nhw.
I rai sydd wedi cwblhau'r daith i'r plinth sy'n nodi'r pwynt uchaf, maen nhw nawr yn gallu dweud eu bod nhw wedi dringo 1,086 metr mewn gwirionedd - ond i rywun sydd wedi gwneud hynny ar hyd un o'r amryw lwybrau, beth yw metr rhwng ffrindiau!
Bydd y rhaglen 'Snowdon - Clinbing New Heights' yn cael ei darlledu ar ITV Wales am 19:30 nos Fawrth, 14 Hydref, a bydd y gyfres 'The Mountain' yn cael ei darlledu ar yr un sianel yn y flwyddyn newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2014