Arweinwyr y pedair prif blaid yn dod i gytundeb

  • Cyhoeddwyd
Wood, RT, Williams, Jones

Mae arweinwyr pedair plaid y Cynulliad wedi dod i gytundeb ynglŷn â'r hyn maen nhw ei eisiau i ddigwydd nesaf o ran datganoli.

Llwyddodd Carwyn Jones (Llafur), Andrew RT Davies (Ceidwadwyr), Leanne Wood (Plaid Cymru) a Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol) i gytuno ar eiriad cynnig fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad yn y dyfodol agos.

Mae'r cynnig yn galw am sicrhau bod Cymru'n derbyn lefel deg o arian gan San Steffan.

Mae Llywodraeth Cymru a rhai o'r gwrthbleidiau yn dweud bod y wlad yn cael ei thangyllido £300 miliwn y flwyddyn, gan mai dyma gasgliad y Comisiwn Holtham nôl yn 2009.

Nawr, mae'r pedair plaid yn galw am ailasesu'r ffigwr hwn er mwyn cymryd y wybodaeth ddiweddaraf i ystyriaeth.

Mae'r cynnig hefyd yn galw am ddatganoli mwy o drethi. Mae nifer ohonyn nhw eisoes ar y ffordd fel rhan o Fesur Cymru, ond mae'r arweinwyr eisiau gweld treth hedfan yn cael ei ddatganoli hefyd.

Yn ogystal mae'r cynnig yn galw ar lywodraeth y DU i:

  • Adolygu lefel y pwerau benthyg sydd ar gael i Gymru (£500 miliwn yw'r ffigwr ym Mesur Cymru);
  • Caniatáu Llywodraeth Cymru i gael yr hawl i gyflwyno bondiau;
  • Sicrwydd bod y setliad datganoli yn cael ei newid i system 'pwerau wrth gefn', sy'n golygu bod pob pŵer wedi ei ddatganoli, heblaw am y rhai sy'n cael eu nodi fel bod wedi eu cadw gan San Steffan;
  • Ddatganoli'r pŵer dros drefniadau etholiadol i'r Cynulliad.

Mae'r cynnig yn galw ar San Steffan i ddechrau deddfu ar y cynigion hyn cyn diwedd y tymor seneddol presennol.

'Y ffordd ymlaen'

Wrth gyhoeddi'r cytundeb, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Rydw i'n falch bod pob un o'r pedair plaid yn y Cynulliad wedi llwyddo i ddod at ei gilydd a chytuno ar y ffordd ymlaen i Gymru.

"Rydym yn galw am nifer o ddiwygiadau uchelgeisiol i'r setliad datganoli i Gymru fyddai'n derbyn cefnogaeth eang gan y cyhoedd, petai nhw'n cael eu gweithredu.

"Rwy'n ffyddiog y bydd llywodraeth y DU yn gwrando ar y datganiad clir hwn o Gymru ac yn ymateb yn briodol, gan ddechrau gyda thrafodaeth am gyllido teg i Gymru.

"Os llwyddwn ni i sicrhau llawr cyllido sy'n mynd i'r afael â'r problemau presennol gyda'r grant bloc, mi fyddai'n datgloi'r drws ar gyfer mwy o ddiwygio ariannol uchelgeisiol."