Teyrngedau i ddyn yr hebogiaid
- Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i berchennog canolfan ar gyfer hebogiaid yn y Barri fu farw mewn damwain yno nos Lun.
Roedd Ceri Griffiths, oedd yn cael ei adnabod fel 'Griff', yn 71 oed.
Fe gafodd Mr Griffiths ei anafu mewn damwain tra'n torri coed yn ôl rhai oedd yn ei adnabod, a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
'Arbenigwr blaenllaw'
Fe sefydlodd Mr Griffiths y ganolfan ar ôl prynu hen adeilad Sw Caerdydd yn 1980 gyda'r bwriad o roi gwersi i bobl ynglŷn â sut i weithio gyda hebogiaid.
Dros y blynyddoedd fe ehangodd ei waith a daeth yn arloeswr mewn bridio'r adar, ac roedd hefyd yn darparu hebogiaid a thylluanod ar gyfer cwmnïau ffilm a theledu.
Roedd yn ddiweddar wedi bod yn gweithio ar brosiect gydag adar yn Dubai.
Mae ei ferch yng nghyfraith Emily Griffiths wedi rhoi teyrnged i Mr Griffiths, gan ddweud: "Roedd hyn yn ddamwain drasig a ddigwyddodd pan roedd yn torri coed ar gyfer ein llosgwr.
"Roedd Griff yn rhywun oedd yn cael ei garu'n fawr, mae'r byd wedi colli un o'i arbenigwyr blaenllaw ym maes adar ysglyfaethus.
"Fe roddodd wersi i filoedd o bobl gyda'r hebogiaid - doedd dim byd doedd e ddim yn ei wybod am adar ysglyfaethus.
"Y ganolfan hebogiaid oedd gwaith ei fywyd, rydym yn cael ymwelwyr o bedwar ban byd yn gweld casgliad Griff o 200 o adar."
'Damwain drasig'
Mae Jamie Munro, ecolegydd sy'n gweithio yn y ganolfan, hefyd wedi mynegi ei dristwch am y farwolaeth.
"Roedd Griff wedi ymddeol o fusnes y teulu ac roedd hyn yn ddamwain, drasig, drasig a ddigwyddodd wrth iddo dorri coed," meddai Mr Munro.
"Rydym ni i gyd wedi tristhau yn ofnadwy. Roedd y gwasanaethau brys yn wych, fyddai dim posib iddyn nhw fod wedi gwneud mwy."
Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd a bydd cwest yn cael ei gynnal yn y man.