Cynhadledd yn trafod pobl anabl a'r byd digidol
- Published
Bydd Anabledd Cymru yn cynnal cynhadledd ar thema cynnwys pobl ag anableddau yn y maes digidol, yng Nghanolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam.
Cadeirydd y gynhadledd yw Andy Rickell, prif weithredwr Action on Disability a Work UK.
Bydd y digwyddiad yn trafod datblygiad ym maes digidol a beth arall sydd ei angen er mwyn sicrhau bod pobl ag anableddau yn rhan o fyd digidol sy'n dal i esblygu.
Cyfleoedd a bygythiadau
Dywedodd Rhian Davies, prif weithredwr Anabledd Cymru:
"Ni ddylai datblygiadau mewn digidol arwain at drefn ble bydd llai o fuddsoddiad mewn datblygu lleoliadau'n hygyrch i bawb.
"Os oes modd siopa ar-lein, pam bod angen gweithredu i wneud y siop leol yn hygyrch? Os oes modd cael dogfennau'r llywodraeth ar-lein, pam oes angen cymorth gan y ganolfan byd gwaith? Ac os oes cysylltiadau amrywiol gan bobl ar-lein, pam fod angen gwneud tafarnau lleol yn hygyrch i bawb?
"Rhaid bod yn ofalus na fyddwn yn creu fersiynau modern o adeiladau oes Victoria a cherbydau trên heb ddrysau awtomatig.
"Felly, yn debyg i faesydd eraill, mae elfennau a chyfleoedd positif iawn yma ond bygythiadau mawr hefyd".
Amcangyfrifir nad yw hyd at 40% o bobl ag anableddau yn rhan o'r byd digidol ar hyn o bryd.
Bydd trosglwyddo gwasanaethau a threfniadau hawlio budd-daliadau ar-lein yn creu problemau i lawer ohonynt.
Bydd y gynhadledd yn trafod hynny ac yn edrych ar ffyrdd o barhau ar welliannau i ddarpariaethau.
'Pwysicach nag erioed'
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Llywodraeth Cymru:
"Mae cysylltu â'r rhyngrwyd a meddu ar y sgiliau i'w ddefnyddio yn bwysicach nag erioed. Gellid dadlau mai pobl anabl yw'r rhai a allai elwa fwyaf o dechnolegau digidol: gallant helpu i leddfu teimladau o unigrwydd a hwyluso byw'n annibynnol wrth roi i bobl anabl yr un dewis a rheolaeth dros eu bywydau â phobl eraill.
"Felly, rwy'n falch bod Anabledd Cymru wedi dewis cynhwysiad digidol fel thema'r diwrnod. Mae Cymunedau 2.0, ein rhaglen cynhwysiad digidol, wedi helpu i gefnogi bron 50,000 person hyd yma.
"Rwyf am gymell ein partneriaid i barhau i gydweithio i helpu mwy o bobl anabl i fynd ar-lein."
'Angen mwy o wybodaeth ac adnoddau'
Ychwanegodd Margaret Barnard o Goelbren, Powys, sydd ag anabledd ei hun:
"Byddaf yn siopa ar-lein oherwydd mae'n haws na mynd i'r siopau. Mae gen i'r wybodaeth a'r hyder i ddefnyddio'r rhyngrwyd ond nid yw llawer o bobl anabl yn yr un sefyllfa. Mae angen mwy o wybodaeth ac adnoddau i helpu pobl anabl i gysylltu â'r byd ar-lein ochr yn ochr â phobl abl".
Cynhelir y gynhadledd ar ddiwedd Bywydau Digidol, prosiect 18 mis Anabledd Cymru gafodd ei gyllido gan fenter Cymunedau 2.0 Llywodraeth Cymru.
Mae'r prosiect wedi trefnu gweithdai i bobl anabl ar draws y wlad er mwyn gwella ymwybyddiaeth o gynhwysiad digidol, gan gyrraedd hyd at 500 o bobl.
Mae'r gweithdai wedi darparu gwybodaeth am dechnolegau cynorthwyol sy'n annog pobl anabl i fynd ar-lein, gan gynyddu hyder a gwybodaeth am dechnoleg, a'u cymell i elwa o wasanaethau a chyfathrebu ar-lein.