BBC Cymru Fyw

Gwahardd Flower am chwe mis am ddyrnu Lance Hohaia

Published
image captionY drosedd ddydd Sadwrn

Mae prop Wigan Ben Flower wedi ei wahardd rhag chwarae am chwe mis wedi iddo ddyrnu Lance Hohaia o St Helens ddwywaith yng ngêm derfynol rygbi'r gynghrair y Super League ddydd Sadwrn.

Fe ddyrnodd Flower Hohaia i'r llawr cyn dyrnu eto pan oedd y dyn o Seland Newydd ar ei gefn.

Cafodd ei anfon o'r cae wedi dim ond dwy funud mewn gêm yr aeth Wigan ymlaen i'w cholli 14-6.

Fe fydd y Cymro'n cael ei wahardd tan 15 Ebrill ac yn colli dechrau'r tymor newydd.

Mae Hohaia wedi ei wahardd am un gêm.