Merthyr Tudful: Ailfeddwl cynllun torri cyflogau
- Published
Mae awgrym gan gyngor sir i dorri cyflogau gweithwyr o 3% wedi ei dynnu nôl am y tro, tra bod adroddiad newydd yn cael ei lunio.
Ddydd Mercher daeth i'r amlwg bod Cyngor Merthyr Tudful yn ystyried diswyddo gweithwyr ac yna eu hail -gyflogi ar dâl is er mwyn arbed arian.
Cafodd cyfarfod arbennig o'r cyngor ei gynnal er mwyn ystyried y cynnig.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd arweinydd y Cyngor Brendan Toomey fod y sefyllfa wedi newid ers llunio'r adroddiad gwreiddiol.
Dywedodd bod 22 o gynghorau Cymru wedi derbyn llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 10 Hydref, yn amlinellu cynigion cyflog ar gyfer 2014.
Bydd arweinwyr cynghorau ledled Cymru yn trafod cynnwys y llythyr ar 24 Hydref.
"Yng ngoleuni llythyr y Gymdeithas a hefyd setliad Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf, oedd yn golygu gostyngiad o 2.6%, mae'r adroddiad wedi ei dynnu yn ôl.
"Rwyf wedi dweud wrth reolwyr i lunio adroddiad newydd fel mater o frys, adroddiad fydd yn ystyried goblygiadau ariannol llythyr y Gymdeithas, a'r setliad. "
Arbedion
Roedd undeb Unsain wedi beirniadu bwriad y cyngor i dorri cyflogau, gan ddweud y byddan nhw'n brwydro yn eu herbyn "bob cam o'r ffordd."
Dywedodd Mr Toomey nad oedd yn deall safbwynt yr undebau.
"Mae'n rhaid i Unsain ddeall, drwy ofyn i ni dorri mwy o wasanaethau cyhoeddus, maen nhw'n gofyn i ni ddiswyddo gweithwyr.
"Mewn ffordd mae Unsain yn gofyn i ni dorri swyddi yn hytrach nac ystyried gwneud arbedion drwy dorri cyflogau.
"Fy nghyngor i yw i Unsain gysylltu â'u haelodau, cyn chwarae gem wleidyddol gyda'i swyddi. "
Cyn digwyddiadau dydd Mercher roedd y cyngor wedi gobeithio dod i gytundeb ar doriadau cyflog o hyd at 3%.
Roedd rhybudd pe na bai hynny'n digwydd yna gallai'r awdurdod ddechrau diswyddo cannoedd o weithwyr cyn y Nadolig, gan gynnig cytundebau newydd ar gyflogau llai.
Dywedodd undeb y GMB fod y cynllun yn 'frawychus' a dylai'r cyngor 'fod â chywilydd o'i hun'.
Rhoi pwer i brif weithredwr
Roedd yr adroddiad gafodd ei baratoi ar gyfer dydd Mercher yn argymell y dylai'r awdurdod geisio dod i gytundeb gyda'r undebau ynglŷn â thoriadau cyflog.
Byddai'r undebau yna'n galw ar eu haelodau i bleidleisio mewn balot yn dilyn ymgynghoriad.
Ond os doedd dim cytundeb erbyn 21 Rhagfyr, roedd cynnig i roi pŵer i Brif Weithredwr y Cyngor i anfon hysbysiadau diswyddo.
Byddai cyfanswm o 1,254 o weithwyr yn cael eu heffeithio, ond nid oedd y cynlluniau'n cynnwys athrawon na staff cefnogol mewn ysgolion.
Diffyg ariannol o £930,000
Mae'r cyngor yn wynebu diffyg ariannol o £930,000 yn y flwyddyn ariannol nesaf ac mae'r adroddiad yn rhybuddio y gallai gynyddu i £5.8 miliwn erbyn 2017/18.
Mae'r arian mae'r cyngor yn derbyn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei dorri 2.6% y flwyddyn nesaf.
Roedd y 'dewisiadau' oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad i gynghorwyr yn argymell cytundeb ar y cyd gyda'r undebau ynglŷn â thoriadau i gyflogau dros gyfnod o dair blynedd.
Mae arweinwyr yr undebau wedi honni y byddai'r cynllun yn golygu bod Merthyr Tudful yn gadael cytundeb cenedlaethol ar y cyd rhwng y cynghorau.
Mae Mike Colley, trefnydd rhanbarthol Unsain, wedi ysgrifennu at bob cynghorydd.
Dywedodd Mr Colley: "Mae Unsain yn gwrthwynebu cynlluniau Cyngor Merthyr yn llwyr a byddwn yn ymladd yn eu herbyn pob cam o'r ffordd os ydi'r cyngor yn penderfynu ceisio dilyn y llwybr hwn.
Gwrthwynebiad
"Mae gweithwyr cyngor wedi dioddef digon. Mae gweithwyr llywodraeth leol eisoes wedi profi toriad i'w cyflogau gwerth 20% mewn termau go iawn ers 2010 a rwan mae disgwyl iddyn nhw lenwi'r bwlch ariannol drwy dderbyn y cynnig annheg hwn.
"Mae Cyngor Merthyr eisoes wedi gweld colli 100 o swyddi yn y flwyddyn ddiwethaf. Tydi'r galw ar wasanaethau heb leihau, felly mae disgwyl i weithwyr wneud mwy a byddai'r cynlluniau yma'n golygu eu bod nhw'n gwneud hynny am hyd yn oed llai o arian.
"Mae Unsain yn gwbl glir na fyddwn ni'n gadael i'n haelodau ddioddef mwy o galedi ariannol, yn enwedig oherwydd ein bod ni wedi cynnig dewisiadau eraill, dewisiadau clir a chall, sydd heb eu hystyried yn ddigonol gan y cyngor."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae penderfyniadau ynglŷn â staffio i'w gwneud gan yr awdurdodau lleol eu hunain.
"Nid yw gostyngiad yn yr arian sy'n cael ei dderbyn o reidrwydd yn golygu cael gwared ar wasanaethau neu ymddiswyddo gweithwyr."
Aeth y llefarydd ymlaen i ddweud "wrth reoli unrhyw ostyngiad mae hi'n bwysig bod awdurdodau lleol yn cydweithio'n effeithiol gyda'r gweithlu, undebau llafur a'r cyhoedd gyda'r nod o sicrhau bod trigolion yn parhau i dderbyn gwasanaethau lleol ble bynnag bo hynny'n bosibl".
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Hydref 2014
- Published
- 26 Mehefin 2014
- Published
- 10 Mawrth 2014
- Published
- 1 Chwefror 2014