Gweision sifil yn streicio

  • Cyhoeddwyd
PCS

Mae gweision sifil sy'n aelodau o undeb y PCS yn streicio heddiw mewn protest ynghylch lefelau tâl.

Mi fydd tua 200,000 yn streicio ledled y DU gyda chanran o'r rhain yn picedu swyddfeydd yng Nghymru.

Ni fydd cyfarfodydd y Cynulliad yn digwydd oherwydd y streic, a hynny achos bod aelodau Llafur a Phlaid Cymru yn gwrthod croesi'r llinell biced.

Yn ogystal mi fydd gwasanaethau'r Llyfrgell Genedlaethol yn cael eu heffeithio rhwng 11:45 a 14:15, ac mi fydd safleoedd yr Amgueddfa Genedlaethol ar gau trwy'r dydd - i gyd heblaw am yr Amgueddfa Lleng Rhufeinig yng Nghaerllion.

Mae llefydd eraill allai gael eu heffeithio yn cynnwys canolfannau profion gyrru, meysydd awyr, porthladdoedd a swyddfeydd llywodraethol.

Toriadau

Asgwrn y gynnen yn ôl yr undeb yw bod blynyddoedd o rewi cyflogau wedi arwain at sefyllfa lle bydd incwm mewn termau real wedi gostwng 20% erbyn y flwyddyn nesaf ers 2010.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb PCS, Mark Serworka: "Mae ein gweithredu'r wythnos hon yn galw am ddiwedd i'r toriadau hyn sydd yn niweidio safonau byw gweision cyhoeddus tra mae miliwnyddion yn cael toriad i'w trethi ac mae biliynau o arian cyhoeddus yn cael ei ddwyn bob blwyddyn wrth i bobl osgoi talu trethi."

Mae llywodraeth y DU yn dadlau fod rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd er mwyn lleihau'r diffyg.

Dywedodd llefarydd o Swyddfa'r Cabinet: "Fel rhan o'n cynllun economaidd tymor hir mae'r llywodraeth hon yn cymryd penderfyniadau anodd er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg yn y gyllideb yr etifeddom ar ôl etholiad cyffredinol 2010."