Diweithdra'n gostwng yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r gyfradd diweithdra yng Nghymru wedi gostwng o 6.7% i 6.5% yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai 94,000 oedd yn ddi-waith rhwng Mehefin ac Awst.
Er hynny roedd llai o bobl mewn gwaith rhwng Mehefin ac Awst y flwyddyn hon o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai eu polisïau nhw sy'n gwneud gwahaniaeth drwy "greu a diogelu swyddi".
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Mae'r gostyngiad mewn diweithdra ymysg yr ifanc yn arbennig yn galonogol ac yn dystiolaeth bellach bod polisïau fel Tŵf Swyddi Cymru yn cael effaith sylweddol ar gael pobl ifanc mewn i waith."
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru, ar yr economi mae'r ffaith fod diweithdra yng Nghymru yn parhau i ostwng yn rhywbeth i'w groesawu.
Ond ychwaengodd: "Un o brif wendidau yn economi Cymru yw fod gormod o swyddi yn rhai o lefelau sgil isel, ac yn golygu cyflogau isel. Mae'r rhaid i'r nod o greu swyddi sy'n talu'n well ac yn cynhyrchu mwy, fod yn brif ffocws i Lywodraeth Cymru."
Dywedodd Eluned Parrott, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar yr economi, fod angen gofyn pam fod economïau rhannau o'r DU yn cryfhau yn gyflymach nag yng Nghymru.
"Mae angen i'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru roi'r gorau i wastraffu arian ar gynlluniau fel Twf Gwaith Cymru, a buddsoddi'r arian er mwyn mynd i'r afael â diweithdra hir dymor yng Nghymru. "
Y darlun ehangach
Ond mae graddfa diweithdra Cymru yn parhau i fod yn sylweddol uwch na'r gyfradd ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, sydd wedi gostwng i 6%.
Y ffigwr hwn yw'r isaf ers Tachwedd 2008 pan roedd effeithiau'r dirwasgiad yn dechrau cael eu teimlo.
Er y gostyngiad hwn, mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n cael eu cyfrif fel bod yn anweithredol yn economaidd yn y chwarter diwethaf - grŵp sy'n cynnwys myfyrwyr, pobl sydd â salwch hir dymor a phobl sydd wedi ymddeol yn gynnar.
Fe wnaeth tâl cyfartalog, sy'n cynnwys taliadau bonws, gynyddu 0.7% yn y flwyddyn hyd at fis Awst.
Yn ôl Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander mae "Prydain yn troi i fod y prif le ar gyfer economïau'r gorllewin".
"Y rheswm dros hyn yw bod ein cynllun adfer yn gweithio, fel mae gweddill y wlad mewn niferoedd digynsail," ychwanegol.