Cartref newydd i Feibl Cymraeg prin

  • Cyhoeddwyd
Y Beibl prinFfynhonnell y llun, Cyngor Powys
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r benthyciad yn 'anrhydedd fawr'

Mae'r ail Feibl Cymraeg argraffwyd erioed wedi cael ei roi ar fenthyga i Lyfrgell y Drenewydd am gyfnod o flwyddyn.

Yn ôl y llyfrgell mae'n "anrhydedd fawr" i gael benthyg y Beibl sy'n dyddio'n ôl i 1620.

Taith fer iawn oedd gan y Beibl i'w deithio oherwydd iddo gael ei fenthyca gan Eglwys Llanllwchaearn, sydd wedi ei leoli bron bedair milltir i lawr y ffordd.

Dywedodd y cynghorydd Graham Brown, aelod cabinet Cyngor Sir Powys dros wasanaethau llyfrgelloedd: "Crewyd y Beibl yn 1620 sy'n golygu bod copiau'n weddol brin. Mae gallu arddangos eitem o bwysigrwydd diwylliannol ac hanesyddol yn un o'm llyfrgelloedd ni yn fraint mawr.

"Mae arddangos y Beibl yn Llyfrgell y Drenewydd yn galluogi cyfle arbennig i'r cyhoedd allu gweld yr eitem arbennig hwn."

Cafodd y Beibl Cymraeg cyntaf ei gyfieithu gan William Morgan a'i argraffu yn 1588. Copi William Morgan oedd sail yr ail gyhoeddiad a gafodd ei drosi gan yr Esgob Richard Parry a Dr John Davies ym Mallwyd yn 1620, 32 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ychwanegodd y cynghorydd Graham Brown: "Dwi wrth fy modd ein bod ni am arddangos y Beibl yma am flwyddyn ac mae ein diolch yn fawr i Eglwys Llanllwchaearn am ganiatáu'r benthyciad gwerthfawr hwn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol