Alcohol yn achosi her sylweddol i iechyd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad newydd yn dangos bod alcohol yn achosi her sylweddol i iechyd yng Nghymru.
Yn ôl yr adroddiad, Alcohol ac Iechyd yng Nghymru 2014 gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae alcohol yn achosi 29 o farwolaethau pob wythnos yng Nghymru - tua 1 allan o bob 20 o farwolaethau.
Mae'r rhan fwyaf o'r marwolaethau o ganlyniad i yfed alcohol hir-dymor a'r ffaith ei fod yn cynyddu risg rhai mathau o ganser, clefydau cardiofasgwlaidd ac afiechydon eraill.
Mae effaith alcohol ar iechyd hefyd yn creu pwysau enfawr ar y system iechyd.
Pob wythnos mae ysbytai Cymru yn ymdrin â hyd at 1,000 o ymweliadau â'r ysbyty sy'n ymwneud ag alcohol.
Mae yfed alcohol ymysg plant a phobl ifanc yn parhau'n bryder, gyda 17% o fechgyn a 14% o ferched rhwng 11-16 oed yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos - sy'n uwch na'r niferoedd yn Lloegr a'r Alban a dwywaith y ffigwr ar gyfer Gweriniaeth Iwerddon.
Mae'r adroddiad yn dangos bod nifer yr oedolion dan 45 oed sy'n yfed llawer wedi lleihau, a hynny'n enwedig ymysg dynion a merched ifanc, ond mae'r nifer o oedolion dros 45 oed sy'n yfed llawer wedi cynyddu neu aros yn gyson.
'Llawer o waith eto i'w wneud'
Dywedodd yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Tra ein bod ni'n gwneud cynnydd, mae'r adroddiad hwn yn dangos bod llawer o waith eto i'w wneud os ydym ni am lwyddo i leihau'r niwed mae alcohol yn ei achosi mewn cymunedau ar draws Cymru.
"Mae angen i ni roi cymorth i bobl wneud y dewis cywir ynglŷn â'u harferion yfed. Mae gormod o bobl sy'n yfed yn methu sylweddoli bod hyd yn oed yfed yn gymhedrol yn gallu cynyddu'r risg o ddatblygu clefydau megis canser. Mae normaleiddio yfed alcohol o oedran ifanc hefyd yn achosi niwed ac mae'n rhaid mynd i'r afael â phroblemau gydag alcohol yn gynnar mewn bywyd."
Ychwanegodd Andrea Gartner, arweinydd prosiect yr adroddiad: "Mae'r adroddiad hwn yn darparu dadansoddiad cynhwysfawr o batrymau defnydd alcohol ac effaith alcohol ar iechyd. Bydd yn darparu budd-ddeiliaid gyda'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer gallu gweithredu a chyflwyno newidiadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2013