Carwyn Jones yn "croesawu arolwg"
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud wrth y BBC nad yw'n poeni nac yn ofni'r broses o graffu ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Roedd Carwyn Jones yn ymateb i gwestiwn ar raglen Any Questions, Radio 4.
Dywedodd y byddai Cymru yn cymryd rhan mewn arolwg o'r gwasanaeth iechyd ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig.
Fe fydd yr arolwg yn cael ei gynnal gan Sefydliad ar gyfer Cydweithredu Economaidd a Datblygiad (OECD).
Ond dywedodd Mr Jones fod cytundeb rhwng y pedair llywodraeth (Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a San Steffan) ynglŷn â sut y dylid cynnal yr arolwg wedi ei dorri gan yr Adran Iechyd yn Lloegr.
'Torri cytundeb'
Yn gynharach yr wythnos yma, fe wnaeth Gweinidog Iechyd San Steffan, Jeremy Hunt, annog Llywodraeth Cymru i gymryd rhan yn yr arolwg.
Dywedodd y byddai hynny yn golygu y byddai casgliadau'r arolwg ar gael cyn yr Etholiad Cyffredinol ym Mai 2015.
Dywedodd Mr Jones ar raglen Any Questions: "Fe fydd yna arolwg gan OECD.
"Dydym erioed wedi deud na fyddwn ni ddim yn ei gael.
"Roedd yna gytundeb rhwng y pedwar llywodraeth ynglŷn â'r modd y byddai'r adroddiadau yn cael eu trin, ac fe wnaeth yr Adran Iechyd benderfynu dorri'r cytundeb," honnodd.
"Nid ydym yn ofn craffu, o gwbl"
"Nid wyf am smalio fod popeth yn iawn o ran y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, na chwaith yn Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon, byddai hynny yn wyrion.
"Byddwn yn derbyn arolwg OECD, ond nid ydym yn fodlon derbyn yr OECD ar dermau sy'n cael eu gosod gan yr Adran Iechyd (yn Lloegr). "
Problemau
Bu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru dan y chwydd wydr yr wythnos hon, yn dilyn cyfres o erthyglau yn y Daily Mail, a dadleuon ar lawr Tŷ'r Cyffredin.
Cafodd rhaglen Any Questions ei darlledu o Aberhonddu.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AC Plaid Cymru, er ei bod yn credu bod cymhelliad gwleidyddol tu cefn i erthyglau'r Daily Mail roedd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru "yn wynebu problemau - a bod Llywodraeth Cymru ddim yn mynd i'r afael a nhw."
Dywedodd bod agen i'r weinyddiaeth ym Mae Caerdydd fynd i'r afael a phroblemau fel recriwtio a phrofion diagnostig.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wynebu'r problemau, a rhoi strategaeth yn ei le."
Wrth ymateb dywedodd Carwyn Jones ei fod yn cydnabod fod yna faterion o fewn y gwasanaeth iechyd fod agen mwyn i'r afael â nhw.
Ond mynnodd nad oedd y problemau yn unigryw i Gymru.
Roedd y AS Ceidwadol Bernard Jenkin, hefyd ar y panel.
Roedd o'n feirniadol o Lafur gan ddweud eu bod wedi gwrthwynebu'r arolwg.
Dywedodd na ddylai'r gwasanaeth iechyd fod yn rhan o "bêl-droed gwleidyddol"
"Mae'n rhaid i ni fod yn fwy gonest a mwy agored am ofal iechyd."
"Rwy'n credu bod Jeremy Hun yn hyrwyddo'r math yna o ddiwylliant.
"Dyla' ni gael mwy o gydweithio rhwng y pleidiau yn hytrach na brwydro gwleidyddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd24 Medi 2014
- Cyhoeddwyd23 Medi 2014
- Cyhoeddwyd22 Medi 2014
- Cyhoeddwyd20 Medi 2014
- Cyhoeddwyd14 Medi 2014
- Cyhoeddwyd7 Medi 2014