Llofruddiaeth Wrecsam: Cyhuddo dau
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn o Wrecsam wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 25 oed ddydd Sadwrn.
Bu farw Sion Craig Davies, 25, yn dilyn digwyddiad ar Deva Way ar stad Parc Caia.
Fe wnaeth y dynion, un yn 32 oed a'r llall yn 53, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon yr Wyddgrug fore Iau.
Mi fyddan nhw nawr yn mynd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener.
Fe gafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa tan hynny.
Cafodd dwy ddynes eu rhyddhau ar fechnïaeth ddydd Mawrth wedi iddyn nhw gael eu holi gan Heddlu Gogledd Cymru.