Dyfodol Iach i Deledu Lleol?

  • Cyhoeddwyd
Made in Cardiff yw'r sianel deledu lleol gyntaf i'w sefydlu yng NghymruFfynhonnell y llun, Made in Cardiff
Disgrifiad o’r llun,
Made in Cardiff yw'r sianel deledu lleol gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru

Ar Hydref 15 fe wnaeth rhywbeth newydd ymddangos ar setiau teledu trigolion Caerdydd - sianel newydd lleol o'r enw Made in Cardiff.

Huw Onllwyn Jones, o wefan Pobol Caerdydd, fu'n bwrw golwg dros noson agoriadol y sianel newydd ar ran BBC Cymru Fyw:

Gwasanaeth newydd

Rwy'n caru Caerdydd - ac 'rwyf wrth fy modd gyda'r syniad o gael sianel deledu i'r ddinas.

Rwy'n gwybod, fodd bynnag, fod llawer o'r sianeli lleol sydd eisoes yn darlledu mewn rhannau eraill o'r DU (megis Llundain) mewn trafferth. Ac felly, gyda chryn nerfusrwydd, fe bwyntiais fy remote at fy nheledu fflat-sgrin a deialu 134 ar y gwasanaeth Freeview.

"Plis, gad i hwn fod yn dda…" sibrydais.

Wel, cystal i mi ddweud wrthych yn syth. Nid oedd yn dda o gwbl. Yn wir, roedd yn noson drychinebus.

Er mwyn ysgrifennu'r adolygiad hwn, fe wyliais MiC o'i enedigaeth (am 8pm ar 15 Hydref) tan 11:05pm. Roedd hi'n noson hir - ac fe gefais rhyw deimlad anesmwyth, wrth i mi geisio ymdopi gyda natur rithweledol rannau sylweddol o'r darllediad, mai madarch hud a gefais gyda fy omled amser te.

Disgrifiad o’r llun,
Dau wyneb cyfarwydd - Marieclare Carey-Jones a Daniel Glyn - yn cyflwyno arlwy noson gyntaf Made in Cardiff

Yr arlwy

Dyma a welsom, yn yr hanner awr cyntaf yn unig:

Agorodd Samba Galez y sioe, gyda sesiwn ddrymio gwyllt, a lwyddodd i hollti fy mhen. Cawsant eu dilyn gan ddarn, ar hap, am y defnydd o warws yn Sblot ar gyfer digwyddiad drum and bass. Yna fe welsom Chris Segar (ITV, The Ferret) yn prynu darn rhad iawn o gig eidion ym marchnad Caerdydd cyn ei ferwi mewn hen sosban.

Canodd Frank Hennessy. Yna fe aethom gyda Mariclare Carey-Jones (cyflwynydd MiC) ar daith fws awyr agored o amgylch Caerdydd.

Diolch i'r gwaith camera aneglur a sigledig - a'r golygu gwael - fe welsom isafbwynt newydd wrth i'r golygfeydd o Gaerdydd y tu ôl i'r tywysydd fethu cyd-fynd gyda'r lleoliadau yr oedd yn eu trafod. Yn wir, roedd fy mhen yn troi ar ôl 5 munud o'r eitem sigledig hon.

Disgrifiad o’r llun,
Samba Galez yn gobeithio taro deuddeg ar y noson agoriadol

Yna: band o'r enw Climbing Trees; clip byr o gyfres o gyfweliadau (addawol) sydd i'w chyflwyno gan Tim Hartley; cyfweliad am yr ŵyl Dim Sŵn; cyfweliad gyda Dan Tyle am ei lyfr newydd... ac… anadlwch! Roeddwn yn eithaf penysgafn erbyn hyn.

Beth am Gaerdydd?

Nesaf, fe gydiodd y madarch hud ynof o ddifrif. Fe welsom gyfres o hysbysebion am nifer helaeth o raglenni, ond nid oedd yr un ohonynt i'w wneud â Chaerdydd.

Er enghraifft: milwyr yn dringo Everest; carchar yn America; dyfeiswyr yn chwilio am fuddsoddwyr; extras ar setiau ffilm; Duncan Bannatyne yn ceisio achub trefi glan môr Prydain - a mwy o nonsens teledu realiti. A yw'r rhain i'w dangos ar MiC? Ni ddywedwyd wrthym.

Disgrifiad o’r llun,
Frank Hennessy, ymhlith yr artisitiad fu'n perfformio ar noson gynta' Made in Cardiff

Yna cawsom ragolygon y tywydd. Llais wedi ei recordio, yn cynnig neges 'generig' ('And here's the weather for Cardiff...') gyda gwaith graffeg gwael a oedd, rhywsut, yn pwysleisio natur ddibwrpas yr eitem hon mewn byd lle mae gennym oll aps tywydd.

Wedyn, rhaglen hir am rhyw Sais (yn Llundain!) sy'n gwneud cup-cakes (iesgob, mae'r madarch yma'n gryf).

Rhaglen go-iawn

O'r diwedd, yn dilyn ychydig mwy o eitemaurandom, cawsom weld y rhaglen gyntaf, go iawn (am 10.00pm) am y Wobr Iris (sef gŵyl a gynhaliwyd yng Nghaerdydd rhwng 7 a 10 Hydref er mwyn dathlu ffilmiau a wnaed gan bobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol). Efallai bod hwn yn arwydd o bethau gwell i ddod.

Roedd yma rhywfaint o addewid - a phethau diddorol i'w mwynhau ('roedd yn wych, er enghraifft, cael clywed gan drefnwyr yr ŵyl a gwneuthurwyr y ffilmiau) - ond cafodd y rhaglen ei difetha gan olygu gwael, diffyg strwythur, a'r cwestiynau 'bland' a ofynnwyd gan gyflwynydd y rhaglen.

Disgrifiad o’r llun,
Chris Segar yn ffureta yn y gegin

Ail-adrodd

Yn ddoniol iawn, ar ôl 40 munud fe ddarlledwyd eto gyfweliad a ddarlledwyd yn gynharach yn y rhaglen - ac fe ddilynwyd hynny gan ail-ddangos 20 munud arall o'r rhaglen! Yna, cafwyd egwyl fasnachol, cyn dychwelyd at Samba Gallez (heb i'r sianel orffen rhaglen Gwobr Iris yn iawn!) ac ail-ddarllediad o hanner awr cynta'r noson. Rhoddais y gorau i'r gwylio.

Mae sianel deledu ar gyfer Caerdydd yn fater difrifol. Mae'n ymwneud â chyrff pwysig megis Ofcom, Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, talwyr y drwydded teledu - ac enw da ein dinas.

Yr hyn a welsom heno, fodd bynnag, oedd cynnyrch amaturaidd iawn. Nid oedd yn ddigon da, o bell ffordd. Roedd y cynllunio'n wael. Roedd y golygu'n wael. Roedd y safon technolegol yn wael.

Rhoddaf chwe mis i'r sianel. Dim mwy.

Fuoch chi'n gwylio noson agoriadol 'Made in Cardiff'? Beth yw eich barn chi am y gwasanaeth teledu lleol newydd yng Nghaerdydd? Cysylltwch gyda ni cymrufyw@bbc.co.uk neu ar Twitter @BBCCymru

Disgrifiad o’r llun,
Beth yw'r rhagolygon i 'Made in Cardiff'?